Newyddion

Wedi parcio'n anghyfreithlon? Mae hysbysiad rhybudd ar y ffordd i chi

Wedi ei bostio ar Friday 21st June 2019

Mae'n ddigon posib y bydd gyrwyr sydd wedi parcio'n anghyfreithlon yn dychwelyd i'w cerbydau i ffeindio 'tocyn' wrth i Gyngor Dinas Casnewydd gymryd rheolaeth o Orfodi Parcio Sifil fis nesaf.

Ni fydd yn rhaid talu dirwy, ond byddant yn cael rhybudd sy'n tynnu sylw at eu trosedd.

Mae'r rhybuddion yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnos sy'n arwain at y cyngor yn cymryd rheolaeth o GPS ar 1 Gorffennaf.

Mae tîm o Swyddogion Gorfodi Sifil wrthi'n cael eu hyfforddi ar gyfer y diwrnod mawr ac mae hysbysiadau rhybudd yn cael eu cyhoeddi i atgoffa gyrwyr eu bod yn fwy tebygol o gael tocyn unwaith y bydd y cyngor wedi cymryd rheolaeth o orfodi parcio sifil os byddant yn torri'r rheolau parcio.

Mae'r cyngor yn cymryd rheolaeth o GPS yn swyddogol wrth Heddlu Gwent ar 1 Gorffennaf, ond bydd cyfrifoldeb dros orfodi deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â thraffig, yn enwedig o ran troseddau mwy difrifol neu pan fo angen gwneud hynny er diogelwch y cyhoedd, yn aros gyda Heddlu Gwent.

Mae'r cyngor hefyd yn cynnal ymgyrch gynhwysfawr i atgoffa gyrwyr i barcio'n ddiogel ac yn y modd cywir gyda'r neges #ParcioCywir ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Yn unol â deddfwriaeth, rhaid i'r arian sy'n dod o Hysbysiadau Tâl Cosb gael ei ddefnyddio i dalu am weithredu'r gwasanaeth gorfodi, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn projectau gwella traffig.

Ni fydd gan Swyddogion Gorfodi Sifil dargedau i gyflwyno nifer penodol o HTCau.

I ddysgu mwy am y gwasanaeth newydd hwn ewch i www.newport.gov.uk/cpe

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.