Newyddion

Diwrnod Aer Glân 20 Mehefin 2019

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th June 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gydag amrywiaeth o ysgolion i helpu i hyrwyddo Diwrnod Aer Glân Cymru ddydd Iau 20 Mehefin.

Mae'r fenter yn rhan o ymgyrch Diwrnod Aer Glân Prydain gyfan i godi ymwybyddiaeth o sut i wella ansawdd yr aer.

Mae'n gyfle i bobl o bob oed ddysgu mwy am lygredd aer, rhannu gwybodaeth a gwneud yr aer yn fwy lân ac iach i bawb.

Gall gweithredoedd syml, megis peidio â gadael eich car yn llonydd wrth aros mewn ciwiau, leihau llygredd aer yn yr un modd â rhannu car, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded lle bo'n bosibl a phlannu coed. Mae hyn oll yn cyfrannu at helpu ein hamgylchedd.

Bydd y Cynghorydd Gail Giles, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros addysg a sgiliau, yn ymweld ag un o'r ysgolion sydd wedi cofrestru i hyrwyddo Diwrnod Aer Glân.

Bydd y Cynghorydd Giles yn ymweld ag Ysgol Gynradd Parc Tredegar ddydd Llun 17 Mehefin i fynd i wasanaeth yr ysgol a sgwrsio â disgyblion sy'n gweithio ar brojectau â'r nod o wella'r amgylchedd.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gydag ysgolion cynradd eraill yn y ddinas, gan gynnwys Millbrook, Mount Pleasant, Eveswell, Llys Maplas, Llanmartin, Pillgwenlli, Somerton a Maendy er mwyn annog disgyblion i ledaenu'r neges ynglŷn ag aer glân.

Bydd y gwaith sy'n mynd rhagddo yn galluogi'r plant i drosglwyddo gwybodaeth ac argymhellion i'w rhieni, gofalwyr a'u rhwydweithiau teulu a ffrindiau ehangach i helpu i annog amgylchedd glanach a diogelach i bawb.

Caiff Diwrnod Aer Glân Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae gwefan ar gael yn cynnig help a chyngor i unrhyw un sydd am gymryd rhan drwy godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau ar 20 Mehefin.

Ewch i https://www.cleanairday.org.uk/wales am ragor o wybodaeth.

Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo strategaethau aer glân drwy gynnal amrywiaeth o brojectau â'r nod o leihau llygredd.

Mae'n gofyn i breswylwyr gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Strategaeth Teithio Cynaliadwy. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal tan 30 Mehefin a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/News/articles/2019/May-2019/Sustainable-travel-strategy-out-for-public-consultation.aspx

Casnewydd yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymuno â'r cynllun ECO-STARS - sef cynllun adnabod cerbydluoedd sy'n rhoi cyngor annibynnol, arbenigol am ddim i weithredwyr cerbydau masnachol ar reoli tanwydd a pherfformiad amgylcheddol cerbydluoedd.

Ni chodir tâl i ymaelodi â'r fenter sydd bellach ar gael i weithredwyr cerbydau masnachol yng Nghasnewydd, o gerbydau unigol i gerbydluoedd corfforaethol mawr. Am ragor o fanylion

ewch i https://www.ecostars-uk.com/

I barhau â'i ymrwymiad i leihau allyriadau carbon, mae'r Cyngor yn ystyried gosod mwy o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan o gwmpas y ddinas.

Mae preswylwyr hefyd wedi cymryd rhan mewn astudiaeth o ddichonoldeb gan bum awdurdod lleol Gwent yn edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y rhanbarth.

Bydd y wybodaeth o'r arolwg yn cael ei chasglu a'i defnyddio fel tystiolaeth i gefnogi cyfleoedd cyllido i fwrw ymlaen â'r cynllun.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.