Newyddion

Cynllun llesiant Casnewydd – blwyddyn yn ddiweddarach

Wedi ei bostio ar Monday 22nd July 2019

Mae Cymru’n wynebu nifer o heriau nawr ac i’r dyfodol, megis llymder, newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldebau iechyd, poblogaeth sy'n heneiddio, swyddi a thwf.

I daclo hyn, cydnabyddir bod angen i sefydliadau weithio’n wahanol. I roi ansawdd bywyd da i’n plant a’n wyrion a wyresau, mae angen i ni feddwl am sut fydd y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud nawr yn eu heffeithio nhw yn y dyfodol.

Datblygodd Casnewydd yn Un, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) y ddinas, gynllun llesiant ar gyfer 2018-23 sy’n nodi’r blaenoriaethau a’r camau i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Casnewydd.

Ers cyhoeddi’r cynllun, mae Casnewydd yn Un wedi newid y ffordd y mae ei sefydliadau-aelodau yn gweithio gan ddefnyddio y ‘ddyletswydd datblygu cynaliadwy’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel ein glasbrint.  

Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf hwn yn amlinellu’r cynnydd rydym wedi ei wneud i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Casnewydd.

Ymhlith y llwyddiannau penodedig mae:

Teimlo’n gadarnhaol am fyw, gweithio, buddsoddi yng Nghasnewydd ac ymweld â hi:

Mae twf yr economi twristiaeth ac ymwelwyr yn un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous. Bydd Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, fydd yn agor cyn bo hir, yn codi proffil y ddinas yn sylweddol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod pobl, busnesau ac atyniadau Casnewydd yn elwa ar y prif leoliad hwn. Rydym yn cefnogi datblygiad o lety ansawdd uchel yng nghanol ein dinas, yn gwella trefniadau rheoli cyrchfannau ac yn ceisio hyrwyddo “Cynnig Casnewydd” deniadol i gynulleidfa ehangach.

Y Sgiliau Cywir:

Mae adduned cyflogwr, sy’n adlewyrchu ymrwymiad ar draws y sector cyhoeddus a phreifat i helpu pobl ifanc i gael profiad gwaith ac i ddechrau ar yrfaoedd, wedi cael ei ddatblygu. Rydym wedi sicrhau cyllid i gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais a golyga’r bartneriaeth rydym yn ei chynnal fod nifer y plant nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn sylweddol is na’r cyfartaledd yng Nghymru.

Rydym wedi bod yn ystyried agwedd seiliedig ar leoedd yn Ringland gan geisio integreiddio rhaglen adfywio Cartrefi Dinas Casnewydd gyda ‘champws cymunedol’ sy’n cynnwys hyb cymdogaeth amlasiantaethol a chanolfan iechyd newydd.

Mannau Gwyrdd a Diogel:

Rydym wedi cyflwyno ein gweledigaeth a’n cynllun ar gyfer seilwaith gwyrdd, mae ein projectau cyntaf nawr ar y gweill ac yn gwneud cymdogaethau yn lleoedd gwell i fyw ynddynt. Drwy ein gwaith ar deithio cynaliadwy rydym yn datblygu trafnidiaeth sy’n fwy effeithlon, diogel a hygyrch gydag effaith lai ar yr amgylchedd.

Un o uchelgeisiau’r cynllun a'r BGC yw i Gasnewydd ddod yn yr ardal drefol sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru yn y 25 mlynedd nesaf. Darganfyddwch fwy yn Newport green and safe network vlog.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Cadeirydd Casnewydd yn Un ac Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae’r flwyddyn gyntaf hon wedi bod yn brysur, cadarnhaol a llwyddiannus a’n cred yw y dengys yr adroddiad blynyddol hwn ein bod yn cyflawni cynllun Llesiant cytbwys, gan ddefnyddio pum ffordd o weithio ac ymdrochi yn ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o’r problemau a’r datblygiadau yn ddiweddar: yr ansicrwydd o amgylch y berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, pryderon ynglŷn â throseddau difrifol a chyfundrefnol, ymwybyddiaeth am effaith profiadau plentyndod andwyol a datgan sefyllfa frys o ran yr hinsawdd. Mae heriau fel y rhain yn ein hatgoffa bod rhaid i ni weithredu heddiw i gael yfory cynaliadwy.”

Dywedodd Ceri Davies, Dirprwy Gadeirydd Casnewydd yn Un a Chyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Casnewydd yn Un yn dwyn ynghyd sefydliadau allweddol i greu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus.

“Mae’r gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth bellach, ac rydym yn dechrau gwneud camau mawr o ran gwella'r ddinas i'w phobl, ei hamgylchedd a'i fusnesau."

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Casnewydd yn Un yn dod ag arweinyddiaeth y gwasanaethau cyhoeddus a’r rheiny sy’n gwneud y penderfyniadau at ei gilydd. Mae’r aelodaeth yn cynnwys pedwar partner statudol ac ystod eang o bartneriaid gwadd.

Cyhoeddwyd y cynllun llesiant lleol pum mlynedd at 3 Mai 2018, ac mae’n nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu’r BGC tan 2023. Noda'r cynllun amcanion llesiant lleol, blaenoriaethau a'r camau y mae'r bwrdd yn cynnig eu cymryd i fodloni'r amcanion a dyna yw'r prif gynllun gweithredu a ffocws y BGC.

Read the full annual report.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.