Newyddion

Adroddiad newydd yn tynnu sylw at ddarpar bwerdy nesaf y DU

Wedi ei bostio ar Monday 8th July 2019
Westernpowerhouse social media image

Datgelwyd y potensial i greu pwerdy economaidd newydd i’r DU heddiw mewn adroddiad newydd gyda argymhellion i gymryd mesurau helaeth i hybu’r economi yng ngorllewin Prydain.

Cyflwynwyd yr adroddiad The Powerhouse for the West, a gomisiynwyd gan bartneriaeth Dinasoedd Mawr y Gorllewin, sef Cyngor Dinas Bryste, Cyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, i uwch wleidyddion ac arweinwyr busnes ac addysg heddiw yn Nhŷ’r Arglwyddi. Cyflwynwyd y digwyddiad gan yr Arglwydd Bob Kerslake o Gomisiwn UK2070.

Mae’r adroddiad, gan Metro Dynamics, yn sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer partneriaeth drawsffiniol, sy’n cynnig argymhellion a fyddai’n hybu gwelliannau seilwaith, buddsoddi, rhyngwladoli a thwf cynhwysol ar draws rhanbarth sydd â saith dinas, 4.4m o bobl, 10 prifysgol, 156,000 o fusnesau ac economi £107bn.

Amlygwyd pum maes cydweithredu allweddol:

  • strategaeth ddiwydiannol sy’n cysylltu cryfderau sectorau;
  • integreiddio gwelliannau i ffyrdd a rheilffyrdd er mwyn galluogi cysylltadwyedd cyflymach;
  • strategaeth ryngwladoli sy’n hyrwyddo cryfderau diwydiannol y rhanbarth;
  • sefydlu arsyllfa cynhyrchiant ac arloesedd sy’n gwneud defnydd gwell o’n data;
  • treialu a mesur dulliau wedi’u teilwra o gysylltu’r cymunedau mwyaf difreintiedig gyda ‘r sectorau sydd â’r twf uchaf.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, “Mae’r cyfleoedd y gallai pwerdy fanteisio arnynt a’u cynyddu yn helaeth. Mae economi’r rhanbarth eisoes yn werth £107bn, sy’n 10% yn uwch na’r Northern Powerhouse a’r Midlands Engine, ond mae ein twf ni yn arafach na’r cyfartaledd. Pe bydden ni ond yn tyfu i gyfateb â chyfartaledd y DU, byddai gennym economi gwerth £121bn – meddyliwch am y posibiliadau pe bai’r pwerdy hwn yn cael ei greu.”

Byddai’r pwerdy arfaethedig – nad yw wedi dewis enw ffurfiol eto – yn ymestyn ar hyd coridor yr M4 o Swindon a thros ffin Cymru i Gaerdydd ac Abertawe, ac yn y gogledd o Gaerloyw a Cheltenham i Gaerfaddon a Bryste. I gefnogi’r fenter hon, mae Cyngor Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, Cyngor Swydd Gaerloyw, Cyngor Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Swindon eisoes wedi ymuno â phartneriaid Dinasoedd Mawr y Gorllewin.

Mae’r adroddiad yn amlinellu cynllun i hybu twf helaeth yn y rhanbarth, nid ailgydbwyso economaidd, ac mae’n rhoi pwyslais ar ddatblygu cryfderau allweddol i ysgogi’r twf hwnnw.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth cryf eisoes sy’n cynnwys dau brif lwybr yn rhedeg ar draws y rhanbarth cyfan (yr M4 a rheilffordd y Great Western) gyda’r M5 yn eu croesi, mae’r darpar bwerdy mewn lleoliad unigryw i ddatblygu a chefnogi twf masnachol mewn ffordd a allai ategu strategaethau lleol a rhanbarthol y presennol.

Meddai Marvin Rees, Maer Bryste, “Ein gweledigaeth yn y pen draw yw creu partneriaeth hirdymor a thrawsffiniol sydd o ddifrif. Rydym eisoes yn allforio nwyddau gwerth £18.4bn a gwasanaethau gwerth £11bn bob blwyddyn – rydym am hyrwyddo ein cyfleoedd masnachu a buddsoddi rhagorol ymhellach trwy datblygu strategaeth ryngwladoli. Yn y byd ar ôl Brexit, bydd twf ar sail allforion o bwysigrwydd anferth i ddatblygu economaidd a gallai’r cydweithrediad hwn sicrhau bod y rhanbarth hwn yn cystadlu â rhanbarthau twf uchel ledled y byd.

“Er mwyn cyflawni hyn, bydd rhaid datrys y problemau o ran tagfeydd ar yr M4 a’r M5, gan gysylltu pobl a chymunedau yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig â chyfleoedd sgiliau a chyflogaeth.”

Mae eisoes gan yr ardal gryfderau unigryw mewn peirianneg uwch, cyfryngau creadigol a digidol, a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sut byddai meysydd twf o ran ynni glân a gwyddorau iechyd a bywyd o fudd pellach iddo.

Meddai Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, “Dechrau’r sgwrs yn unig yw hyn a’n cam nesaf fydd sefydlu cyfrwng arweinyddiaeth i lunio’r fenter hon a’i datblygu.

“Mae’r adroddiad hwn yn sôn am gyd-fynd yn hytrach na chystadlu â strategaethau a phartneriaethau sydd eisoes ar waith. Byddem yn datblygu partneriaeth rhwng sectorau cyhoeddus a phreifat ar draws y rhanbarth saith dinas hwn gyda chynrychiolwyr o bartneriaethau menter leol, busnesau a phrifysgolion a chyda chefnogaeth y llywodraeth genedlaethol.”

Gellir darllen yr adroddiad yn www.apowerhouseforthewest.org.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.