Newyddion

Acolâd arbennig i broject ysgolion Casnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 1st July 2019
John Frost School external Oct 2018 resized

Ysgol John Frost Casnewydd

Cafodd project cyffrous gwerth £28m i ail-ffurfweddu Ysgol John Frost Casnewydd a darparu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf y ddinas ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.

Mae Ysgol John Frost ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed wrth ymyl ei gilydd yn ardal Duffryn o’r ddinas.  Cafodd gwaith ar y ddau safle ei wneud dros 30 cam, gydag adeilad Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn cael ei agor fis Medi 2018.

Cafodd y project ei gyd-ariannu gan Gyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru dan Fand A rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a’i gyflawni gan Newport Norse fel rhan o bartneriaeth menter ar y cyd gyda’r Cyngor.   

Newport Norse wnaeth reoli’r cynllun, gan ddatblygu brîff strategol a chwblhau’r project ar amser, dan gyllideb ac i safon eithriadol, ar y cyd â’r prif gontractwr BAM Construction.

Cafodd y projectau eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Project y Flwyddyn, a’r wobr Arloesedd o ran Cynnig Gwerth, yn y digwyddiad yng Nghaerdydd ar 19 Mehefin.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n falch iawn bod y project hwn, a gyflawnwyd gan ein partneriaid Newport Norse, ar ran y Cyngor, wedi cael canmoliaeth uchel yn y gwobrau hyn.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Dyma’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i gael ei datblygu yng Nghymru yn y tair blynedd diwethaf ac, o ganlyniad i gyllid gan Gyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru, roeddem hefyd yn gallu cyflawni gwelliannau yn Ysgol John Frost.  Project gwych ac esiampl o waith partneriaeth ar ei orau”

Dywedodd Mark McSweeney, Cyfarwyddwr Cysylltiol – Masnachol a Phrojectau, Newport Norse:  “Mae cael canmoliaeth uchel yn y gwobrau cenedlaethol arbennig hyn yn dangos ymdrech y rheiny a oedd yn gysylltiedig â’r project.

“Roedd nifer o rwystrau mawr i’w goresgyn yn ystod y project, felly roedd cwblhau cynllun mor fawr cyn amser a dan gyllideb yn pwysleisio agwedd gadarnhaol y tîm.  Y canlyniad terfynol yw adeiladau gwych lle gall plant ddysgu a llwyddo.”

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Newport Norse wedi bod yn datblygu ei dîm Masnachol a Phrojectau, felly mae cyrraedd y rhestr fer a chael canmoliaeth uchel am Arloesedd o ran Cynnig Gwerth yn cadarnhau ein bod ni ar y trywydd iawn.”

Roedd cynaliadwyedd yn ffocws allweddol ar gyfer y project ac ymgysylltodd y tîm â Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnwys newid yn yr hinsawdd yn ei fodel.   Cafodd paneli PV hefyd eu gosod, gan greu 30,000kwh y flwyddyn o ynni adnewyddadwy.

Fe wnaeth y tîm gynnal gweithdai ffocws cymunedol, creu cylchlythyrau dwyieithog i breswylwyr ac annog rhanddeiliaid i gymryd rhan helaeth, gan gynnwys sylwadau a cheisiadau lle bo’n briodol yn y cynllun.  

Trwy arbenigedd dylunio, gallu technegol ac agwedd gadarnhaol, mae’r dymuniad i greu adeiladau gwych ar gyfer y ddwy ysgol, heb ymyrryd yn ormodol ar yr adeiladau presennol, wedi’i wireddu’n llwyddiannus.

Mae’r projectau wedi arwain at wella boddhad staff a myfyrwyr ac etifeddiaeth yng Nghasnewydd sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i lwyddo, tra’n cataleiddio ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

*Mae’r project hefyd wedi’i gynnwys ym Mlwyddlyfr SPACES 2019, ochr yn ochr â rhai o’r cynlluniau awdurdod lleol gorau yn y wlad.  

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.