Y Cyngor yn croesawu teithio am ddim
Wedi ei bostio ar Tuesday 2nd July 2019
Mae Swyddogion Gorfodi Sifil Cyngor Dinas Casnewydd yn cael teithio am ddim ar fysus y ddinas.
Gwnaeth Trafnidiaeth Casnewydd y cynnig er mwyn sicrhau bod y swyddogion yn gallu cyrraedd amrywiaeth o leoliadau ar gyfer eu shifftiau wrth gyflawni dyletswyddau Gorfodi Parcio Sifil.
Ac mae’r cwmni’n annog gyrwyr sydd am osgoi dirwyon parcio i adael eu ceir gartref a dal y bws yn lle gyrru.
Mae hefyd yn cefnogi ymgyrch #ParcioCywir y Cyngor sy’n annog gyrwyr i gadw at Reolau’r Ffordd Fawr a pharcio’n ddiogel gyda’i ymgyrch #maketheswitch.
Croesawyd y penderfyniad gan y Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau’r Ddinas.
Dywedodd, “Mae preswylwyr wedi cwyno am flynyddoedd wrthon ni ac wrth Heddlu Gwent am y diffyg gorfodi ar y strydoedd lle roedd gyrwyr yn anwybyddu rheolau’r ffordd yn gwbl eofn, gan achosi problemau i gerddwyr a gyrwyr eraill, yn enwedig yng nghanol y ddinas.
“Rydym yn gwybod bod gyrwyr bysus hefyd wedi cael llawer o broblemau wrth deithio ar hyd ffyrdd y ddinas oherwydd ceir wedi’u parcio’n ddiofal, felly rydym yn croesawu’r cynnig gan Trafnidiaeth Casnewydd i helpu fel hyn.
“Rydym wedi treulio misoedd yn ailosod neu’n diwygio gorchmynion traffig a chodi arwyddion newydd i sicrhau na fydd pobl mewn unrhyw amheuaeth o ran y rheolau parcio.”
Esboniodd Morgan Stevens, cyfarwyddwr gweithrediadau Trafnidiaeth Casnewydd, “Mae’n bleser gennym gynorthwyo’r Cyngor wrth orfodi parcio.
“Fel defnyddwyr ffyrdd helaeth ein hunain, rydym yn deall o brofiad ymarferol yr anawsterau y gall parcio anystyriol eu hachosi i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhan o’r ateb i leihau tagfeydd a gwella ansawdd aer yn y ddinas.
“Yn Bws Casnewydd, rydym yn darparu dros 40 llwybr yng Nghasnewydd a’r cyffiniau, a chyda 15 bws trydan dim allyriadau newydd yn gwbl weithredol erbyn Pasg 2020 a’n hymrwymiad i adolygu ein llwybrau’n gyson, rydym mewn sefyllfa dda i annog pobl i newid i deithio ar y bws fel eu prif ddull trafnidiaeth.”
Cyflwynwyd Gorfodi Parcio Sifil i wella diogelwch ar y ffyrdd, lleihau tagfeydd er mwyn galluogi traffig i lifo’n rhwyddach a diogelu cymunedau rhag parcio anghyfreithlon ac anystyriol yn ogystal â gorfodi cynlluniau parcio i breswylwyr.
Ei nod yw bod yn weithrediad hunanariannu a bydd yn helpu i wella’r rhwydwaith trafnidiaeth gan y caiff unrhyw incwm ychwanegol yn sgil gorfodi parcio anghyfreithlon ei wario’n uniongyrchol ar welliannau parcio neu drafnidiaeth.