Newyddion

Gemau Trawsblannu Prydain 2019 – wythnos i fynd!

Wedi ei bostio ar Thursday 18th July 2019
BTG Newport landscape

Bydd Casnewydd yn croesawu cannoedd o athletwyr ysbrydoledig i’r ddinas yr wythnos nesaf wrth i ni gynnal Gemau Trawsblannu Prydain Westfield Health 2019.

Bydd y Gemau’n cael eu cynnal rhwng 25 a 28 Gorffennaf 2019. Mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu dros 850 o athletwyr sydd wedi cael trawsblaniad a dros 1,500 o gefnogwyr, gan gynnwys teuluoedd sydd wedi  rhoi organau, i’r ddinas.

Mae’r Gemau wedi'u trefnu ar ran yr elusen Transplant Sport UK, a'r nod yw codi ymwybyddiaeth o roi organau a chynyddu nifer yr organau sy’n cael eu rhoi.

Dywedodd Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chadeirydd Pwyllgor Trefnu Lleol y Gemau: “Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU o ran ei hagwedd at roi organau, a chyflwyno caniatâd tybiedig. Fodd bynnag, mae llawer rhagor i’w wneud i godi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd ac i annog pobl i gael y trafodaethau rheiny – sy’n anodd weithiau – gyda’u hanwyliaid.

“Nid yn unig y mae’r Gemau yn cydnabod trawsblaniad fel rhodd anhygoel – fel y mae’r rhai o bob oedran sy’n ei dderbyn yn gallu byw bywyd iach, actif a normal – ond mae hefyd yn anrhydeddu'r rhoddwyr.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Mae’n anrhydedd gennym groesawu’r Gemau i’n dinas. Mae gan Gasnewydd hanes rhagorol o gynnal digwyddiadau chwaraeon gan gynnwys Cwpan Ryder, y Felothon, pencampwriaethau beicio trac a gwersyllfaoedd hyfforddi Olympaidd a Pharalympaidd – ond bydd y digwyddiad hwn yn rhywbeth arbennig i'r ddinas. 

“Mae’r athletwyr hyn yn ysbrydoli a bydd y Gemau'n lledaenu neges sydd mor bwysig.”

Mae Gemau Trawsblannu Prydain Westfield Health yn cynnwys mwy na 25 o ddigwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol a chystadlaethau i bobl o bobl gallu, o bysgota i drac a chae, gan gynnwys Ras y Rhoddwyr - digwyddiad cynhwysol a fydd yn agored i’r cyhoedd - cofrestrwch nawr ar www.britishtransplantgames.co.uk

Bydd y Gemau’n ategu ymgyrchoedd sy’n digwydd yn lleol i addysgu a chodi ymwybyddiaeth am roi organau a’r pwysigrwydd o rannu'ch penderfyniad â'ch anwyliaid.

Heddiw, mae Gemau Trawsblannu Prydain yn croesawu mwy na 50 o dimau o ysbytai ledled y DU (ac mae ymwelwyr yn parhau i ddod o dramor) sy’n dod ynghyd i rannu eu profiadau personol, i gystadlu, ac i ddiolch i'r teuluoedd sydd wedi rhoi organau, sy'n dod yn rhan gynyddol o'r Gemau.

Mae Gemau Prydain hefyd yn llwybr i bobl sydd am gael eu dewis i gystadlu yng Ngemau Trawsblannu'r Byd, sy'n digwydd am yr ail flwyddyn. Mae Tîm GB gyda'r mwyaf o faint a'r mwyaf llwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.britishtransplantgames.co.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.