Newyddion

Ceisiadau am le meithrin ym Medi 2020

Wedi ei bostio ar Wednesday 10th July 2019
nursery kids resized

Gwnewch gais am le meithrin at fis Medi 2020 i blant a aned rhwng 1 Medi 2016 a 31 Awst 2017 o 10 Gorffennaf 2019 ymlaen.

Wrth wneud cais rydych chi’n ymgeisio am le ym mis Medi ac yn dangos p’un ai a fyddai gennych ddiddordeb mewn dechrau cynnar (lle Rising 3) yn y feithrinfa honno os yw’ch plentyn yn gymwys ac os oes lleoedd ar gael.

Lawrlwythwch bolisi derbyn i ysgolion 2020 (pdf)

Darllenwch am ddalgylchoedd Casnewydd.

Gwnewch gais ar-lein am le meithrin ym Medi 2020

  • Gallwch wneud cais o 10 Gorffennaf 2019 ymlaen
  • Y dyddiad olaf i gyflwyno cais yw 18 Medi 2019
  • Caiff penderfyniadau eu cyflwyno ar 4 Rhagfyr 2019

Pan wnewch gais ar-lein bydd gofyn i chi gadarnhau’ch dewisiadau ysgol feithrin. Ydych chi wedi ystyried addysg Gymraeg i’ch plentyn?

Fel arall, lawrlwythwch ffurflen derbyn i feithrinfa Medi 2020 (pdf)

Nid yw mynegi dewis yn sicrhau lle yn eich meithrinfa ddewis ond bydd yn rhoi blaenoriaeth i'ch plentyn dros rieni nad ydynt wedi’i dewis.

Os nad ydych yn mynegi dewis, neu’n cyflwyno’ch cais ar ôl y dyddiad cau, bydd yn llai tebygol y caiff eich plentyn fynychu eich meithrinfa ddewis.

Cysylltwch ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ffydd) yn uniongyrchol am ffurflen gais.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.