Newyddion

Siopau tecawê'n cael eu herlyn am werthu bwyd anniogel

Wedi ei bostio ar Wednesday 23rd January 2019

Mae tair siop tecawê yng Nghasnewydd wedi’u herlyn am werthu bwyd anniogel.

Cafwyd eu bod yn torri rheoliadau diogelwch bwyd ar ôl i swyddogion safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd esgus bod yn gwsmeriaid gydag alergedd wy yn rhan o arolwg alergenau.

Aeth swyddogion i 10 siop tecawê rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2017 ac wrth esgus bod yn gwsmeriaid, archebon nhw reis arbennig wedi’i ffrio o’r bwydlenni gan ddweud bod ganddynt alergedd wy ac na ddylai fod unrhyw wy yn y prydau.

Ar ôl i’r prydau gael eu rhoi i’r swyddogion, dywedon nhw eu bod yn swyddogion yn cynrychioli adran safonau masnach y Cyngor a samplon nhw’r prydau a’u hanfon wedyn i’r Dadansoddwr Cyhoeddus. Canfuwyd bod tri o’r 10 siop tecawê wedi cyflenwi bwyd â lefelau uchel o wy.

O ganlyniad plediodd dwy siop tecaŵe’n euog yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 6 Awst 2018 i gyhuddiadau o werthu bwyd anniogel a bwyd nad oedd o’r natur y gofynnwyd amdano gan y prynwr.

Rhoddwyd dirwy o £200 gyda chostau o £900 yr un i The Oriental Long Limited, sy’n masnachu fel The Oriental, Corporation Road, Casnewydd a Shelax Limited, sy’n masnachu fel Jasmine Rice, Commercial Road, Casnewydd. Hefyd, rhoddwyd dirwy o £100 i’r bobl sy’n rheoli’r ddau fusnes, Jian Long Xie a Ke Gei Lu, yn y drefn honno.

Ar 17 Ionawr 2019 yn Llys Ynadon Casnewydd, plediodd Lukas Lai sy’n masnachu fel The Great Wall, Cromwell Road, Casnewydd, i’r un troseddau ar ôl dewis mynd i dreial yn gyntaf.

Cafodd ddirwy o £2,419 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £2,189. 

Mae bron i 2 filiwn o bobl yn y DU ag alergedd bwyd ac mae alergedd i wy yn un o’r rhai mwyaf cyffredin, yn enwedig ymysg plant.

Mewn amgylchiadau eithriadol gall gael canlyniadau difrifol megis anhawster anadlu neu sioc anaffylactig 

Dywedodd y Cynghorydd Ray Truman, yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio yng Nghyngor Dinas Casnewydd: “Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu iechyd ein trigolion a byddwn yn ystyried erlyn pan fo hyn wedi’i beryglu fel y dangoswyd yn y tri achos hyn.

“Mae busnesau bwyd wedi’u cynghori’n flaenorol am eu cyfrifoldebau o ran sicrhau bod bwyd wedi’i ddisgrifio’n gywir, yn benodol mewn perthynas ag alergenau ac mae’n siomedig na chydymffurfiwyd â’r cyngor hwn yn yr achosion hyn. 

“Mae’n hanfodol bod busnesau bwyd yn cydymffurfio’n llawn â’u cyfrifoldebau cyfreithiol yn benodol mewn perthynas ag alergenau gan y gall y canlyniadau fod yn farwol.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.