Newyddion

Yr Arweinydd yn annog pobl i bleidleisio dros "arwres anhysbys"

Wedi ei bostio ar Wednesday 9th January 2019

Mae pum Cymraes ddylanwadol, yn cynnwys un o Gasnewydd, ar restr fer i fod yn destun gwaith celf y tu allan i bencadlys newydd BBC Wales.

Pleidlais gyhoeddus fydd yn pennu cerflun o ba fenyw y mae hanes wedi ei hanwybyddu fydd y cyntaf yng Nghaerdydd.

Un o'r benywod ar y rhestr yw'r suffragette, Arglwyddes y Rhondda, yr oedd ganddi gysylltiadau hanesyddol â Chasnewydd, ynghyd ag Elizabeth Andrews, Elaine Morgan, Betty Campbell a Cranogwen.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Dinas Casnewydd a Chymdeithas Llywodraethau Lleol Cymru: "Mae'r bum menyw yn haeddu cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau a'u cyfraniad at Gymru.

 "Un yn unig y gellir ei chynrychioli yn y celfwaith newydd hwn a byddwn i'n annog pobl i bleidleisio dros arwres Casnewydd, Arglwyddes y Rhondda, Margaret Haig Thomas. Yn ogystal â bod yn aelod allweddol o'r mudiad dros bleidlais i fenywod ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, bu hi hefyd yn ymgyrchu dros hawl menywod i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac roedd hi'n gyfarwyddes ar nifer o fyrddau cwmnïau.

 "Fodd bynnag, rwy'n siŵr o ystyried ei brwydr dros y bleidlais, y byddai hi'n unfryd â mi ac yn annog pobl i gymryd rhan waeth pwy maen nhw'n penderfynu ei chefnogi."

Ganed Arglwyddes y Rhondda yn Llundain, ond daeth i Gasnewydd fel plentyn tan ei 13 oed pan aeth i ysgol fonedd. Yn hwyrach, priododd tirberchennog yng Nghasnewydd a dod yn ysgrifennydd cangen Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod yng Nghasnewydd. Wedi bywyd llawn a difyr, bu farw yn Llundain yn 75 oed.

Dysgwch ragor am y pum menyw sydd ar y rhestr fer a sut mae bwrw eich pleidlais yn bbc.co.uk/hiddenheroines.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.