Newyddion

Neges lwc dda i Gymdeithas Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 4th January 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd, mewn partneriaeth â Chymdeithas Clwb Pêl-droed Sir Casnewydd, wedi gosod negeseuon lwc dda o gwmpas y ddinas yn barod at gêm fawr y clwb yn erbyn tîm Leicester City, sydd yn Uwchgynghrair Lloegr, y penwythnos yma.

Bydd clwb pêl-droed y ddinas yn chwarae yn erbyn tîm Caerlŷr yn Rodney Parade ddydd Sul, 6 Ionawr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: "Dyma gyfle rhagorol arall i ddangos y gall y ddinas gynnal digwyddiadau mawr. Mae gennym enw da, sy'n gwella eto fyth, fel lle sy'n cynnal digwyddiadau chwaraeon pwysig.

"Rwy'n siŵr y bydd y tîm yn perfformio'n wych yn erbyn Leicester City, sy'n dîm arall yn Uwchgynghrair Lloegr, yn dilyn ymweliad Spurs y tymor diwethaf. Rwy'n dymuno'n dda iddynt yn eu gêm fawr yng Nghwpan y Gymdeithas Bêl-droed (FA)."

Bydd y Cynghorydd Wilcox yn y gêm ynghyd â chefnogwyr oes Clwb Pêl-droed Sir Gasnewydd, gan gynnwys y Cynghorwyr Ray Truman, Jon Guy, David Mayor a Jane Mudd.

Mae'r negeseuon lwc dda ar bolion lampau ar hyd yr Heol Fawr, Commercial Street, Llanarth Street a Queensway.

Mae dwy faner fach ar y rheiliau ger yr Orsaf Wybodaeth, mae un faner fawr y tu allan i Theatr Glan yr Afon ac mae dwy faner fawr bob ochr i Bont Droed y Mileniwm a chaiff baneri eraill eu harddangos y tu mewn i'r maes.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.