Newyddion

Pont George Street

Wedi ei bostio ar Friday 18th January 2019

Mae archwiliad o’r goleuadau stryd ar Bont George Street wedi nodi problemau gyda’r colofnau goleuadau a bydd rhaid atgyweirio rhai ohonynt.   

Fel mesur rhagofalus, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi symud y colofnau hyn i’w profi’n fwy a chaiff gwaith i’w hatgyweirio ei wneud gan wneuthurwr y colofnau. 

Caiff mesurau eraill i gefnogi defnydd o’r bont gyda’r nos eu cyflwyno tra bod y gwaith atgyweirio hanfodol yn cael ei wneud a fydd yn cymryd tua chwe wythnos i’w wneud.  

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster y gallai’r gwaith hwn ei achosi a hoffai roi sicrwydd i ddefnyddwyr y ffordd y gwneir pob ymdrech i ailosod y goleuadau cyn gynted â phosibl.

Llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.