Newyddion

Addewid y cyngor i gyflawni gwasanaeth SENCOM i Gasnewydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 15th January 2019

Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd gyfrifoldeb i gyflawni’r gwasanaethau gorau i gymunedau lleol ac mae hynny’n cynnwys ei addewid i gyflawni’r gwasanaethau a ddarperir gan SENCOM.

Mae’n bwysig ailadrodd na fydd y trefniant newydd yn arwain at doriad o ran darpariaeth gwasanaeth presennol.

Dros yr ychydig wythnosau diwethaf bu sylw yn y cyfryngau sy’n awgrymu y bydd ein penderfyniad i sefydlu gwasanaeth Casnewydd yn unig yn achosi aflonyddu i ddefnyddwyr gwasanaeth ac hefyd yn ansefydlogi’r bartneriaeth sy’n weddill.

Nid yw’r cyngor yn deall pam y galwyd am adolygiad cyfreithiol o’r penderfyniad i dynnu’n ôl o bartneriaeth y gwasanaeth SENCOM pan nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gwasanaeth i’w gyflawni gan Gasnewydd.

Mae’r cyngor yn deall y flaenoriaeth a roddir i weithio rhanbarthol ac rydym wedi’n hymrwymo’n llwyr i weithio mewn partneriaethau, fel y dangosir er enghraifft trwy ein hymgysylltiad parhaus â’r Gwasanaeth Lleiafrifoedd Ethnig Gwent a Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg De Ddwyrain Cymru.

Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd i sicrhau gwerth am arian i bob drethdalwr cyngor Casnewydd ac mae’r achos rydym wedi’i ddatblygu nid yn unig yn amddiffyn y gwasanaeth i ddefnyddwyr presennol, mae hefyd yn dangos y gallwn ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd fwy cost effeithiol.

Rydym hefyd wedi’n synnu ar natur y sylw parhaus gan ein bod yn ymwybodol o’r gohebiaeth gan bennaeth SENCOM i gynghorwyr yn un o’r awdurdodau eraill yng Ngwent sy’n cynnig sicrwydd na chaiff y  gwasanaeth i’r pedwar awdurdod sy’n weddill ym mhartneriaeth gwasanaeth SENCOM yn cael ei ansefydlogi ac ni effeithir ar ddefnyddwyr.

Drwy gydol ein holl drafodaethau mae ein prif ffocws wedi bod ar tawelu meddwl y 380 o deuluoedd y mae eu plant yn derbyn y gwasanaeth. Mae sylwadau yn y cyfryngau sy’n awgrymu fel arall wedi cael y wybodaeth anghywir sydd wedi creu straen diangen i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Hefyd mae trafodaethau’n mynd yn eu blaen gyda staff eraill yn SENCOM a gaiff eu trosglwyddo draw i wasanaeth Casnewydd.

 

 

Gwybodaeth a ddarparwyd o’r blaen mewn datganiadau

 

Rhoddodd Cyngor Dinas Casnewydd rybudd i Dorfaen ar 1 Hydref ac anfonwyd llythyrau allan i rieni a gofalwyr ar 15 Hydref i roi gwybod iddynt o’r trefniadau newydd ar gyfer darparu gwasanaethau ac maent wedi sicrhau bod ganddynt lwybrau clir i godi cwestiynau neu bryderon trwyddynt.

 

Dosbarthwyd cylchlythyr am SENCOM a gwasanaeth Casnewydd i bob rhiant a gofalwr ddiwedd mis Rhagfyr.

 

Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda’r holl deuluoedd er sicrhau bod pontio i wasanaeth Casnewydd yn unig yn bodloni eu hanghenion.

 

Mae’r cyngor yn hyderus bod y cyngor wedi gweithredu’n gyfreithiol ac yn briodol drwy gydol y broses.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.