Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno i fabwysiadu'r Siarter Clefyd Niwronau Mot
Wedi ei bostio ar Tuesday 29th January 2019
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno i fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor i gefnogi pobl leol sy’n dioddef o’r clefyd angheuol hwn a’u gofalwyr.
Mae Clefyd Niwronau Motor yn glefyd angheuol sy’n gwaethygu’n gyflym, a gall adael pobl yn sownd mewn corff sy’n methu, heb y gallu i symud, siarad na hyd yn oed anadlu yn y pen draw.
Yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddydd Iau (29/01/19) cytunodd aelodau i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd gan arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Debbie Wilcox, i fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor.
Roedd y cynnig yn nodi’r gofal a’r cymorth y mae pobl sy’n dioddef o Glefyd Niwronau Motor a’u gofalwyr yn eu haeddu ac y gallent eu disgwyl.
Mae’n lladd tua thraean o bobl o fewn blwyddyn o ddiagnosis, a mwy na hanner o fewn dwy flynedd. Does dim gwellhad.
Yn anffodus, ychydig iawn yr ydym yn ei ddeall am Glefyd Niwronau Motor ac mae hyn yn golygu bod llawer o bobl sy’n dioddef o’r clefyd yn mynd heb y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox:“Rwyf wrth fy modd bod ein Cyngor wedi cytuno i fabwysiadu’r Siarter Clefyd Niwronau Motor.
“Mae’n hollbwysig bod mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o anghenion pobl â Chlefyd Niwronau Motor er mwyn i’r rhai sy’n dioddef ohono allu gwneud y mwyaf o’u bywyd a marw ag urddas”.
Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Trevor Watkins a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol gan yr holl gynghorwyr.
Dywedodd Chris James, Cyfarwyddwr Materion Allanol Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor: “Mae pwysigrwydd y Siarter Clefyd Niwronau Motor yn ddiamheuol. Ein nod yw bod pawb yn ymwybodol y gall derbyn y gofal cywir, yn y man cywir ac ar yr adeg gywir, fel y nodir yn ein Siarter, newid bywydau.”
Lansiwyd y Siarter Clefyd Niwronau Motor i sicrhau bod y bobl sy’n dioddef o’r clefyd yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae’n cynnwys pum pwynt:
1. Yr hawl i gael eu trin fel unigolion, gydag urddas a pharch
2. Yr hawl i gael diagnosis cynnar a gwybodaeth
3. Yr hawl i gael mynediad at ofal a thriniaeth o safon
4. Yr hawl i wneud y gorau o safon eu bywyd
5. Mae gan ofalwyr pobl sy’n dioddef Clefyd Niwronau Motor hawl i gael eu gwerthfawrogi, parchu, clywed a’u cefnogi.
Gallwch ddarllen y Siarter Clefyd Niwronau Motor yn http://www.mndcharter.org/