Newyddion

Cost fandaliaeth yn llyfrgell Betws

Wedi ei bostio ar Thursday 24th January 2019
bettws library

Ilyfrgell Betws

Mae atgyweirio ffenestri wedi’u torri yn llyfrgell Betws yn costio mwy na £6,000 y flwyddyn i Gyngor Dinas Casnewydd.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael ei feio am yr ymosod cyson ar yr adeilad mae pob un o’i ffenestri wedi’u torri a’u hadnewyddu sawl gwaith.

Mae’r Cyngor bellach yn annog trigolion lleol i ddweud wrth yr heddlu os ydynt yn gwybod pwy yw’r troseddwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros ddiwylliant a hamdden ei bod yn siomedig bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi arwain at ddifrod o’r fath.

 “Eich llyfrgell chi yw hwn ac mae’n gyfleuster cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio gan drigolion lleol ond mae hefyd yn darged i fandaliaid.

 “Ar adeg o lymder ariannol, mae’n rhaid i’r Cyngor edrych ar wariant yn erbyn cyllideb dynn ac ni all y Cyngor ymrwymo i adnewyddu ffenestri wedi’u torri a’u difrodi am byth.

 “Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y fandaliaeth hon bydden ni’n ei annog i gysylltu â Crimestoppers,” meddai’r Cyng. Harvey.

Gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 yn ddienw neu ddefnyddio’r ffurflen ar-lein yn https://crimestoppers-uk.org/give-information

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.