Paul Flynn AS
Wedi ei bostio ar Tuesday 19th February 2019
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Dyma ddiwedd oes yng Nghasnewydd a San Steffan.
"Estynnaf fy nghydymdeimladau dwysaf i Sam a'r teulu, wrth Gyngor Dinas Casnewydd. Roedd yn ymgyrchwr brwd ac yn rhywun a ddwedai'r hyn oedd ar ei feddwl heb agenda - meddyliwr annibynnol go iawn.
"Gwasanaethodd y ddinas yn gyntaf fel cynghorydd i Gyngor Bwrdeistref Casnewydd ac yna Gyngor Sir Gwent cyn dod yn AS etholaethol gwych. Helpodd filoedd o bobl dros y degawdau.
"Er nad oedd yn dod o Gasnewydd, cofiwn amdano fel gwir fab i'r ddinas ac un o'i chefnogwyr pennaf.
"Roedd yn gyfaill a chydweithiwr da a byddaf yn gweld eisiau ei bersonoliaeth, ei ffraethineb a'i gyfraniad at fywyd cyhoeddus yn fawr. Mae'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi."
Mae baneri'n hedfan ar hanner mast yn y Ganolfan Ddinesig yn dilyn y newyddion trist.