Newyddion

Clod i broject ar y cyd sy'n mynd i'r afael â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 1st March 2019

Bydd project sy'n mynd i’r afael â Throseddau Difrifol a Chyfundrefnol yng Nghasnewydd yn parhau am yr ail flwyddyn ar ôl i’r Swyddfa Gartref gymeradwyo cyllid ar ei gyfer.

Caiff y gwaith ei gynnal gan ymbarél partneriaeth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd yn Un â chefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd, Heddlu Gwent, Barnardos, Casnewydd Fyw, Mutual Gain a Crimestoppers.

Cafodd Casnewydd ei nodi’n un o’r lleoliadau peilot ar gyfer y cynllun ac mae arian y Swyddfa Gartref yn darparu cydlynydd a rhaglenni sy’n cynorthwyo gwaith atal ac ymyrryd, yn gwella gwydnwch cymunedol ac yn codi ymwybyddiaeth o’r broblem gynyddol o fewn cymunedau.

Hyd yn hyn, mae llythyr ar y cyd gan Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, a Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu dros Gwent, wedi cael ei anfon at yr holl sefydliadau sydd ynghlwm wrth y project.

Yn ôl y llythyr: “Rydym yn gwbl ymwybodol bod troseddau difrifol a chyfundrefnol yn niweidio unigolion a chymunedau yn ddyddiol ac mae’n cael effaith niweidiol ar wead cymunedau hefyd.

“Hoffwn ddiolch i’r BGC, i’r partneriaid a’r staff am eu hymrwymiad enfawr i’r rhaglen hyd yn hyn.

“Ac rydym yn falch o gyhoeddi bod y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd arian ar gael am ail flwyddyn y gwaith hwn, a hynny hyd at fis Mawrth 2020.

“Golyga hyn y bydd y rhaglenni atal ac ymyrryd yn cael eu hehangu dros y cyfnod hwn, a byddwn yn ystyried mwy o waith yn amodol ar werthusiad Prifysgol Abertawe o’r flwyddyn gyntaf, sydd hefyd ar y gweill.

“Mae’r adborth hyd yn hyn yn datgelu bod y bartneriaeth wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant yng Nghasnewydd ac mae wedi ein galluogi i fwrw ymlaen â digwyddiadau, prosesau nodi ac ymyrraeth gyda grwpiau ‘mewn perygl’, datblygu llwybrau atgyfeirio, rhannu data a chudd-wybodaeth, gan fanteisio’n llawn ar y cyfle cyllido hwn.

“Rydym yn sicr y bydd wedi dylanwadu ar y penderfyniad i ymestyn y cyfnod ariannu.”

Mae’r gwaith hefyd yn cefnogi polisïau’r Cyngor drwy gyfrannu at y cynllun llesiant, gwydnwch cymunedol, gwaith y PPNau drwy Heddlu Gwent, ac mae’n arwain at wella dealltwriaeth partneriaid a gwasanaethau, gan gynnwys sefydliadau trydydd sector.

Bydd bwrdd cyflenwi ar gyfer troseddau difrifol a chyfundrefnol, sydd wedi’i gadeirio gan Heddlu Gwent, yn parhau i oruchwylio’r arian a’r ddarpariaeth, gan adrodd yn ôl i is-grŵp y BGC, Casnewydd Diogelach.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.