Lansio adroddiad Dinasoedd Allweddol
Wedi ei bostio ar Thursday 7th February 2019
Roedd y Cynghorydd Debbie Wilcox ymhlith y ffigurau arweiniol mewn awdurdodau lleol a gafodd eu gwahodd i lansiad dogfen bwysig sy'n egluro'r camau nesaf ar gyfer grŵp y Dinasoedd Allweddol.
Gyda hi yn y digwyddiad yn Nhŷ'r Cyffredin roedd cadeirydd y Dinasoedd Allweddol ac Arweinydd Wakefield, y Cynghorydd Peter Box.
Bu i arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd gymryd rhan yn y drafodaeth bwrdd uchaf a'r sesiwn holi ac ateb, gyda dros 60 o gynrychiolwyr llywodraeth leol a chenedlaethol a busnesau.
Cyhoeddodd y rhwydwaith ei weledigaeth yn 2018, yn nodi bod gan y Dinasoedd Allweddol y potensial, y gallu a'r bywiogrwydd sydd eu hangen i arwain taith y DU i gyfnod o dwf a ffyniant newydd.
Dinasoedd Allweddol: Mae Dinasoedd ar Waith yn datblygu'r weledigaeth hon drwy esbonio sut mae'r aelodau yn bwriadu gweithio'n agosach â'r llywodraethau datganoledig a llywodraeth y DU i wireddu tri uchelgais sy'n gyffredin iddynt: creu'r mannau gorau i bobl gyrraedd, a byw a thyfu ynddynt.
Mae'r adroddiad yn esbonio sut gellir gwireddu'r uchelgais hwn a sicrhau rhagor o gynhyrchedd, twf cryfach, gwell swyddi a dinasoedd sydd wedi eu hadfywio ac sy'n gynaliadwy, sy'n braf byw ynddynt ac sydd â thai fforddiadwy ynddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Wilcox: "Dangosodd y digwyddiad lansio bod Casnewydd yn cyflawni rôl arweiniol yn y Dinasoedd Allweddol, ac roedd yn gyfle gwych i drafod y nodau a'r amcanion rydyn ni'n eu rhannu, gydag arweinwyr dinasoedd eraill o gefndiroedd gwleidyddol gwahanol.
"Drwy gydweithio, gall y Dinasoedd Allweddol, a Chasnewydd yn eu plith, gael llais cryfach a gwella gwydnwch ein gweithluoedd a'n busnesau i sicrhau y bydd ganddyn nhw'r sgiliau i'w galluogi i addasu'n gyflym a helpu'r DU i fod ar flaen y gad o ran arloesi byd-eang.
"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw, er enghraifft, at le Casnewydd yn y datblygiadau digidol sy'n digwydd. "Mae'n gartref i glwstwr arwyddocaol o gwmnïau technoleg, yn enwedig ym maes lled-ddargludyddion a seiber-ddiogelwch.
"Fel cyngor, rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau a'r sector preifat i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i breswylwyr, gweithwyr busnes ac ymwelwyr a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae'r Dinasoedd Allweddol yn un o'r partneriaethau strategol hynny sy'n hynod bwysig."
Mae Casnewydd wedi bod yn aelod o'r Dinasoedd Allweddol, y rhwydwaith arwain dinasoedd sy'n tyfu'n gyflym yn y DU ers 2015.
Mae 24 o ddinasoedd yng Nghymru a Lloegr wedi ymuno erbyn hyn, gyda chyfanswm poblogaeth o 6.38 miliwn rhyngddynt a chyfraniad o ryw £130.5 biliwn at yr economi bob blwyddyn.