Newyddion

Cam pwysig i greu hyb cymdogaeth cyntaf Casnewydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 27th February 2019
Work starts on Ringland hub Feb 2019

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid canolfan gymunedol Ringland yn hyb cymdogaeth cyntaf Casnewydd i roi preswylwyr wrth wraidd darparu gwasanaethau.

Y llynedd, cytunodd y cabinet i ddatblygu cysyniad yr hyb i wella ac integreiddio darparu gwasanaethau cymorth.

Dewiswyd Ringland, lle mae lefel uchel o amddifadedd a'r nifer mwyaf o ddefnyddwyr gwasanaethau cymunedol, i fod y lleoliad cyntaf i beilota'r model cyn ei gyflwyno i ardaloedd eraill.

Enillodd y cwmni lleol TPS y contract i adlunio a moderneiddio'r ganolfan gymunedol a fydd yn cynnwys llawer o wasanaethau cymunedol megis Gwaith a Sgiliau, Gwasanaethau Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, Cymunedau Cryf, llyfrgelloedd, Dechrau'n Deg a sefydliadau partner eraill.

Ar hyn o bryd caiff y gwasanaethau hyn eu rheoli ar draws nifer o adeiladau ar hyd a lled y ddinas. Ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, caiff y gwasanaethau hyn eu rheoli yn yr hyb cymdogaeth ond byddant yn parhau i gael eu darparu i breswylwyr mewn lleoliadau neu 'loerennau' eraill.

Y lloerennau ar gyfer dwyrain y ddinas dan ofal yr hyb cyntaf hwn fydd yn Alway, Somerton, Moorland Park (canolfan gymunedol Dwyrain Casnewydd) a San Sulien (Canolfan Beaufort). Disgwylir i'r project gael ei gwblhau yr hydref hwn.

Meddai Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, "Rydym am ddarparu gwasanaethau mewn ffordd llawer mwy effeithiol er lles preswylwyr sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Ar hyn o bryd gall hynny olygu mynd i nifer o wahanol safleoedd i dderbyn gwasanaethau neu, o bosib, golli'r cyfle i gael cymorth a allai wneud gwahaniaeth sylweddol i'w bywydau.

 "Trwy ddod â'r broses o reoli'r gwasanaethau hynny i'r hyb, crëir un man cyswllt i deuluoedd ac unigolion a fydd yn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth iawn yn y lle iawn."

Meddai'r Cynghorydd David Mayer, Aelod Cabinet dros y Gymuned ac Adnoddau, "Bydd gwasanaethau ar gael o hyd lle mae'r angen mwyaf amdanynt ond yr hyb fydd y man cyswllt cyntaf a bydd yn cydlynu'r gwasanaethau hynny.

 "Bydd gan Lyfrgell Ringland amgylchedd gwell ac mae partneriaid hefyd yn bwriadu ymuno â ni yn yr hyb. Bydd yn creu siop leol dan yr unto i breswylwyr a bydd yn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth y mae ei angen arnynt i fyw bywydau llawn."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.