Newyddion

Pob lwc i Glwb Pêl-droed Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 14th February 2019
Amber Army NCC logo

Bydd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox a’r Maer, y Cynghorydd Malcolm Linton yn mynd i’r gêm ddydd Sadwrn pan fydd Clwb Pêl-droed Casnewydd yn cystadlu yn erbyn sêr y Gynghrair, Manchester City. 

Wrth ddymuno pob lwc i’r tîm, dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Rwy’n falch o allu mynd i’r gêm gyffrous hon ddydd Sadwrn gan nad oedd yn bosibl i mi fynd i’r gêm yn erbyn Middlesbrough gan fy mod i’n gweithio yn rhywle arall.

 “Rwy’n disgwyl y bydd yr awyrgylch yn llawn cyffro a hoffwn i ddweud pob lwc i Mike Flynn a’i chwaraewyr ar gyfer eu gêm yn erbyn Manchester City, nad oes tocynnau ar ôl ar ei chyfer.

 “Pob lwc i bawb yn y clwb, rydym yn gwybod y byddwch yn gwneud yn wych.”

Bydd y Maer, y Cynghorydd Malcolm Linton, cefnogwyr gydol oes i Glwb Pêl-droed Casnewydd, yn mynd i’r gêm gyda’i wraig Sharon, Maeres y ddinas.

Dywedodd: “Fe wnes i fwynhau mynd gyda’r Faeres a chadeirydd y clwb i weld y gêm yn erbyn Middlesbrough ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm nesaf yn erbyn sêr y brif gynghrair, Manchester City.

 “Rwyf wedi cefnogi’r Clwb drwy gydol fy mywyd ac rwy’n gwybod bod pawb yn y clwb, ynghyd â chefnogwyr pêl-droed ledled y ddinas, yn edrych ymlaen yn fawr at ddydd Sadwrn.

 “Rydyn ni’n falch iawn o dîm Casnewydd a’r ffordd y curon nhw Middlesbrough gyda dwy gôl ragorol. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gêm y bumed rownd yn Rodney Parade.  Amdani tîm Casnewydd!” dywedodd y Cynghorydd Linton.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.