Oes gennych chi ystafell sbâr ac amser sbâr?
Wedi ei bostio ar Monday 4th February 2019
Mae Llamau, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, yn awyddus i sicrhau lleoliadau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd neu nad ydynt yn barod i fyw ar eu pen eu hunain.
Fel darparwr Llety â Chymorth byddwch yn helpu person ifanc i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol.
Bydden ni’n cynnig y cymorth ariannol ac ymarferol sydd ei angen arnoch i'w helpu gyda thasgau fel coginio, cyllidebu, neu sut i sortio biliau; eu hannog gyda gwaith coleg neu roi cefnogaeth emosiynol iddynt.
Mae pob person ifanc yn wahanol, a bydd rhaid i chi a'r unigolyn benderfynu gyda'ch gilydd pa fath o gymorth sydd ei angen arno.
Os ydych yn teimlo bod gennych yr amser a’r lle i gynnig y cyfle i berson ifanc gael lleoliad sefydlog a chefnogol, cysylltwch â Julie Richards ar 01633 244134 neu e-bostiwch [email protected] <mailto:[email protected]>