Cyfri'r diwrnodau cyn gorfodi parcio sifil ar draws Gwent
Wedi ei bostio ar Wednesday 13th February 2019
Atgoffir modurwyr ledled Gwent y bydd y cyfrifoldeb am orfodi parcio ar draws y rhanbarth yn trosglwyddo o Heddlu Gwent i'r awdurdodau lleol yn 2019.
Bydd y pum Cyngor ar draws Gwent (Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen, a Sir Fynwy) yn cymryd y dyletswyddau Gorfodi Parcio Sifil gan yr heddlu yn ffurfiol yn ystod y misoedd nesaf.
Bydd y cyfrifoldeb am orfodi darnau eraill o ddeddfwriaeth traffig, yn enwedig yn achos tramgwyddau mwy difrifol neu le mae'n angenrheidiol er diogelwch y cyhoedd, yn aros gyda Heddlu Gwent.
Mae'r dyddiadau trosglwyddo yn amrywio – cynghorau Caerffili a Sir Fynwy fydd y cyntaf ar 8 Ebrill 2019, yna cyngor Blaenau Gwent ar 30 Mehefin 2019, a chynghorau Casnewydd a Thorfaen ar 1 Gorffennaf 2019.
Bydd swyddogion gorfodi sifil yn ymgymryd â'r dyletswyddau gorfodi mewn trefi a phentrefi ar draws y rhanbarth ac, os canfyddir bod cerbyd wedi'i barcio'n anghyfreithlon, bydd ganddyn nhw'r pŵer i roi Hysbysiad Tâl Cosb.
Ar hyn o bryd, Gwent yw'r unig ardal heddlu sy'n parhau i gyflawni dyletswyddau gorfodi parcio, a bydd trosglwyddo'r pwerau i'r cynghorau yn golygu y bydd y rhanbarth yn unol â gweddill Cymru.
Dywedodd aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Streetscene, y Cynghorydd Roger Jeavons: “Bydd trosglwyddo'r pwerau Gorfodi Parcio Sifil yn caniatáu i'r Cyngor ddarparu dull cydgysylltiedig a chyson o ran gorfodi rheoliadau traffig, a bydd yn helpu gwella diogelwch ar y ffyrdd a llif y traffig, a lleihau nifer y rhwystrau.
“Rydym am greu cymunedau diogel a bywiog i'n trigolion a'n busnesau, felly byddwn yn targedu ein hadnoddau mewn mannau allweddol, megis canol trefi prysur, y tu allan i ysgolion a mannau penodol eraill, yn ogystal ag ardaloedd preswyl.”
Mae'r pum awdurdod lleol wedi dod i gytundeb â Chyngor Rhondda Cynon Taf, a fydd yn darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer y cynllun. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi bod yn darparu'r gwasanaeth hwn yn ei ardal ers nifer o flynyddoedd, ac mae'r systemau a'r staff profiadol perthnasol eisoes ar waith.
Bydd pob awdurdod lleol yn cyhoeddi rhagor o gyngor a gwybodaeth am y newidiadau yn ystod y misoedd nesaf.