Y Cyngor yn chwifio'r faner ar gyfer Mis Hanes LGBT
Wedi ei bostio ar Tuesday 5th February 2019
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwifio Baner yr Enfys y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig yn ystod mis Chwefror i gefnogi Mis Hanes LGBT.
Thema'r digwyddiad eleni, sy'n fis o hyd, yw heddwch, gweithredaeth a chymodi.
Meddai'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae codi'r faner yn ffordd o ddatgan ein bod am i Gasnewydd fod yn ddinas ddiogel a chynhwysol i bawb. Mae goddefgarwch a dealltwriaeth yn allweddol i wneud ein dinas yn fan lle gall pobl ffeindio heddwch a diogelwch."