Cabinet yn argymell cyllideb 2019-20
Wedi ei bostio ar Thursday 14th February 2019
Yn dilyn ymgynghoriad helaeth â'r cyhoedd a phartneriaid, mae'r Cabinet heddiw wedi trafod adborth ar y cynigion arbedion drafft a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr a gwnaeth argymhellion i gyllideb 2019/20.
Ers paratoi'r gyllideb ddrafft ar ddiwedd 2018, mae ffigwr setliad terfynol y Cyngor wedi cadarnhau grant gwell gan Lywodraeth Cymru a chynnydd yng nghyllid sail y dreth gyngor - nifer yr aneddiadau yn ardal yr awdurdod ac felly lefel ddisgwyliedig yr incwm a ddaw yn sgil y dreth gyngor.
O ganlyniad, ystyriodd y Cabinet falans positif o £655k a sut gellid buddsoddi hwn orau neu ei ddefnyddio yn erbyn arbedion arfaethedig.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd y Cyngor: "Er bod y dreth gyngor yn cyfrannu llai na chwarter tuag at gyfanswm y gyllideb, rydym yn cydnabod bod hyn yn gost sylweddol i deuluoedd. Yn ein trafodaethau cynnar gwnaethom rybuddio y byddai'n rhaid i ni ystyried ei chodi'n sylweddol, er nad oedd unrhyw un eisiau gwneud hyn.
"Fodd bynnag, mae'r 'arian parod' hwn wedi rhoi opsiynau i ni ac roeddwn i a'r aelodau Cabinet yn meddwl ei bod hi'n bwysig defnyddio ychydig o'r arian hwnnw i leihau'r cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor."
Yr argymhelliad olaf wnaeth y Cabinet oedd cynyddu'r dreth gyngor gan 5.95 y cant, yn hytrach na'r cynnydd arfaethedig o 6.95 y cant.
Mae'r rhan fwyaf o'r eiddo yng Nghasnewydd ym mandiau A, B a C, sy'n golygu cynnydd wythnosol o ddim mwy na £1.08.
Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, disgwylir y bydd cyfraddau treth gyngor Casnewydd yn dal i fod ymhlith yr isaf yng Nghymru.
"Rydym hefyd wedi dewis buddsoddi peth o'r arian hwn yn ôl i'r gwasanaethau cymorth addysg. Ynghyd â'n hymrwymiad i gynnig addysg wych, byddwn yn dal i gefnogi llesiant ein myfyrwyr gydag arbenigedd ein swyddogion lles addysg a'r seicolegydd addysg." meddai'r Cynghorydd Wilcox.
Newid arall a wnaed yn sgil y trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod oedd gohirio'r cynnydd arfaethedig yng nghostau trwyddedau parcio i breswylwyr. Bydd y ffi nawr yn cynyddu o 1 Gorffennaf 2019 pan fydd y cyfrifoldeb am weithdrefnau gorfodi parcio yn cael ei drosglwyddo o Heddlu Gwent i'r cyngor.
"Gobeithiaf y bydd preswylwyr yn cydnabod pa mor ddifrifol yw ein cyfrifoldeb ni i osod cyllideb gytbwys. Yn syml, mae gennym lai o arian a staff nag erioed, ond mae disgwyl i ni ddarparu cannoedd o wasanaethau yn y ddinas o hyd.
"Drwy gydol y broses hon, y ffocws yw diogelu gwasanaethau hanfodol a'n trigolion bregus, a sicrhau bod ein dinas yn tyfu yn y dyfodol."
"Rwy'n falch, er gwaetha'r heriau sylweddol hyn, ein bod wedi parhau i reoli ein cyllid yn effeithiol a thargedu adnoddau i'r blaenoriaethau allweddol a nodir yn ein maniffesto a'n cynllun corfforaethol.
"Yn y cyfnod hwn a'r gofyn i ni wneud penderfyniadau anodd, mae'n bwysig iawn i ni wrando ar farn trigolion, partneriaid a busnesau, felly diolch i bawb gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Rydym wedi ymdrechu'n galed iawn i fynd i'r afael â rhai o'r materion a'r anghenion a godwyd."
Bydd y gyllideb arfaethedig, gan gynnwys y cynnydd yn y Dreth Gyngor, yn mynd gerbron y Cyngor llawn ddydd Mawrth 26 Chwefror.
Mae papurau o gyfarfod y Cabinet ar gael ar-lein. Caiff cofnodion eu cyhoeddi cyn bo hir.