Maes parcio Fourteen Locks a beiciau modur
Wedi ei bostio ar Thursday 5th December 2019
Mae'r gorchymyn traffig ar gyfer parciau Cyngor Dinas Casnewydd gan gynnwys Fourteen Locks, yn caniatáu parcio i geir sydd yn talu ac arddangos.
Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster i feiciau modur dalu ac arddangos, er enghraifft i dalu drwy app, ac felly gan na allan nhw dalu, ni chaniateir beiciau modur.
Mae'r cyngor yn edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â hyn trwy dechnoleg neu gyflwyno mannau parcio wedi eu neilltuo, fodd bynnag tan hynny, ni ellir caniatáu beiciau modur yn y maes parcio, dim ond parcio ar y briffordd.