Newyddion

Cabinet i ystyried cyllideb ar gyfer 2020-21

Wedi ei bostio ar Tuesday 17th December 2019

Bydd cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried y gyllideb ar gyfer 2020-21 a sut y gallai gwasanaethau gael eu darparu o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael yn ei gyfarfod ar 20 Rhagfyr.

Mae’r cyngor yn darparu mwy na 800 o wasanaethau i fwy na 151,000 o bobl sy’n byw mewn mwy na 65,000 o gartrefi.

Yn 2020-21 mae’r cyngor yn wynebu diffyg o tua £6 miliwn i ariannu’r un lefel o wasanaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydyn ni eisoes wedi gwneud arbedion a chyflwyno mesurau effeithlonrwydd sylweddol - £41 miliwn dros y pum mlynedd ddiwethaf a lleihau maint ein gweithlu gan bron i chwarter.

“Fodd bynnag, mae’r galw ar wasanaethau, yn enwedig mewn gofal cymdeithasol ac addysg, yn annhebygol iawn o leihau. O ganlyniad mae’n rhaid i ni bennu arbedion ‘newydd’ - o leiaf £21 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

“Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i greu cynllun cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ond gyda llai o arian, llai o staff a llawer o bwysau ar wasanaethau, mae’n hynod anodd.”

Mae’r prif bwysau yng Nghasnewydd yn cynnwys:

  • Poblogaeth sy’n heneiddio sy’n dod yn gynyddol ddibynnol ar ofal; sy’n gofyn am becynnau mwy cymhleth a drud i helpu i gadw pobl yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r costau o gynnig pecynnau gofal wedi codi o £33 miliwn yn 2015/16 i amcangyfrif o £44 miliwn eleni.
  • Ers 2015/16 bu cynnydd o 85 y cant yn nifer y plant sy’n cael eu rhoi mewn lleoliadau gofal y tu allan i Gasnewydd, a chynnydd o 109 y cant yn nifer y plant mewn lleoliadau maethu annibynnol.
  • Mae 1,046 yn fwy o ddisgyblion na thair blynedd yn ôl.
  • Mae 256 yn fwy o ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: “Un rhan o’r gyllideb sydd bob amser yn anodd creu cydbwysedd ynddi yw’r dreth gyngor. Er ei bod yn cyfrannu llai na chwarter o’r gyllideb gyfan, rydym yn deall ei bod yn wariant mawr i drigolion.

“Mae Casnewydd yn gyson wedi bod y ddinas sy’n codi’r gyfradd dreth gyngor isaf yng Nghymru - ac, waeth faint bynnag yr hoffem beidio, mae’n rhaid i ni ystyried ei chodi, ond hyd yn oed wedyn byddem yn disgwyl y byddai’n parhau’n isel iawn o gymharu ag awdurdodau eraill. Ar y cam hwn, rydym yn ystyried cynnydd o 7.95 y cant - mae’r rhan fwyaf o’n haelwydydd yn y bandiau A i C, a fyddai’n golygu cynnydd o rhwng £1.14 ac £1.52 yr wythnos.

“Prif ffynhonnell gyllid y cyngor yw Llywodraeth Cymru. Mae manylion ein setliad drafft wedi dod yn hwyrach eleni, sydd wedi ychwanegu at yr her wrth geisio cynllunio. Rydym yn disgwyl cael manylion ein setliad drafft ddechrau wythnos nesa, ac rydym yn gobeithio y bydd yn un ffafriol i’r ddinas. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda phecyn mwy cadarnhaol bydd angen gwneud arbedion o hyd, a bydd sicrhau cyllideb gytbwys yn anodd o hyd.”

Mae agenda ac adroddiadau cyfarfod y cabinet ar gael yn (link). Gallwch hefyd weld mwy am ffynonellau cyllid y cyngor a’r her gyffredinol sy’n wynebu’r gyllideb yn www.newport.gov.uk/budget

Yn dilyn y cyfarfod, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau a gynigir i’r gwasanaethau a chymorth a ddarperir gan y cyngor ar agor tan ddiwedd Ionawr 2020.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.