Newyddion

Cynnydd mewn ailgylchu'n cyfateb i 310 o lorïau ailgylchu

Wedi ei bostio ar Thursday 15th August 2019
Bin lorry 310

Cynnydd mewn ailgylchu’n cyfateb i 310 o lorïau ailgylchu

Mae trigolion yn ailgylchu mwy o eitemau nag erioed yn ôl ffigurau diweddaraf Cyngor Dinas Casnewydd – gyda chynnydd sy’n cyfateb i 310 o lorïau ailgylchu.

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ailgylchu wedi cynyddu i 69.6 y cant y chwarter cyntaf eleni o’i gymharu â 56 y cant ar gyfer yr un amser y llynedd.

A phriodolir yr hwb hwn yn y cyfraddau ailgylchu i gyflwyno biniau llai i annog mwy o bobl i ailgylchu.

Er bod Cymru’n cael ei chydnabod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran ailgylchu, mae Casnewydd yn chwarae ei ran yn yr ymdrech i leihau gwastraff a’i effaith ar ein planed.

Ar ddechrau’r flwyddyn hon, cymeradwyodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod y cabinet dros wasanaethau’r ddinas, nifer o argymhellion i gynyddu’r gyfradd ailgylchu, gan gynnwys cyflwyno biniau llai ar ddechrau mis Ebrill.

Os bydd y duedd hon yn parhau bydd y cyngor yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol sydd wedi ei osod arno gan Lywodraeth Cymru – ac yn arbed arian.

Mae’r data diweddaraf yn galonogol iawn ac yn dangos bod sbwriel yn gostwng 30 y cant a gwastraff bwyd ac ailgylchu yn cynyddu rhyw 25 y cant.

“Mae'r cynnydd hwn mewn ailgylchu ar gyfer chwarter cyntaf eleni yn newyddion gwych a hoffen ni ddiolch i’r trigolion am dderbyn y newidiadau yn sgil cyflwyno’r biniau llai newydd.

“Rydyn ni’n cydnabod bod rhywfaint o wrthsafiad yn erbyn y newidiadau ar y dechrau ond mae’r ffigur ailgylchu diweddaraf o 69.6 yn dangos mai'r penderfyniad gorau oedd y newidiadau a dylai pawb fod yn falch iawn ein bod yn gwneud ein rhan i helpu'r amgylchedd a lleihau gwastraff,” meddai’r Cyng Jeavons.

Mae’r arbedion sydd o ganlyniad i gyflwyno’r biniau llai wedi galluogi’r Cyngor i dalu i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref fod ar agor yn hwyrach bob dydd Iau ac ar Ŵyl y Banc ym mis Awst.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.