Newyddion

Help llaw i fusnesau bach

Wedi ei bostio ar Friday 30th August 2019

Gall busnesau bach newydd neu bresennol wneud cais am grantiau drwy gronfa datblygu busnes Cyngor Dinas Casnewydd.

Mae'r gronfa, a grëwyd yn 2015/16, wedi cael effaith gadarnhaol ar yr economi a'r llynedd cefnogodd nifer o fusnesau amrywiol annibynnol i agor neu ehangu.

Yn ogystal â helpu busnesau newydd a phresennol, mae hefyd wedi cyfrannu at gynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant.

Eleni cafodd £60,000 ei neilltuo i help busnesau, gyda ffocws penodol ar ganol y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, yr aelod cabinet dros adfywio a thai, "Dwi wrth fy modd ein bod ni'n rhoi cymorth ariannol i fusnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yng Nghasnewydd. Rydym eisoes wedi helpu rhai mentrau annibynnol gwych, ac rwy'n edrych 'mlaen at weld mwy o fusnesau'n cymryd eu camau cyntaf eleni gyda'n cefnogaeth ni."

Gall busnesau wneud cais am grantiau hyd at uchafswm o £3,000 yng nghanol y ddinas a £1,500 ar gyfer gweddill y ddinas.

Gall yr arian gael ei ddefnyddio tuag at rent am swyddfa newydd neu fwy; offer a pheiriannau; offer TGCh; hyfforddiant anstatudol neu ffioedd proffesiynol. Rhaid iddo gyfrannu at greu o leiaf un swydd lawn-amser newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau neu sut gall ein tîm gwasanaethau busnes arbenigol eich helpu, ewch i www.newport.gov.uk/business

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.