Newyddion

Y Cyngor yn cefnogi Penwythnos Mawr Pride Cymru

Wedi ei bostio ar Thursday 22nd August 2019
NCC Pride (003)

Bydd staff o Gyngor Dinas Casnewydd ym Mhenwythnos Mawr Pride Cymru yng Nghaerdydd dros ŵyl y banc.

Byddant yn ceisio dod o hyd i drigolion o Gasnewydd sy'n mwynhau'r digwyddiad i holi eu barn ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Whitcutt, dirprwy arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am gydraddoldeb: "Fel cyngor rydym yn ymrwymedig i gefnogi cydraddoldeb a'r gymuned LGBT fel aelod o'r rhwydwaith Cynghorau Balch, sy'n dathlu amrywiaeth.

 "Mae hwn yn gyfle gwych i ni gysylltu ag aelodau o'r gymuned LGBT ar y mater pwysig hwn a chael amser da yn nathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.