Canlyniadau lefel A
Wedi ei bostio ar Thursday 15th August 2019
Mae'r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, wedi llongyfarch myfyrwyr Casnewydd ar eu canlyniadau arholiadau heddiw.
"I nifer o bobl ifanc, heddiw fydd dechrau pennod newydd yn eu bywydau wrth iddynt symud ymlaen i'r brifysgol, cyfleoedd hyfforddi eraill neu fyd gwaith. Byddant wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt hwn a hoffwn ddymuno'n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n ddiwrnod arbennig i mi'n bersonol gan fod fy ŵyr, disgybl yn ysgol Casnewydd, wedi cael canlyniadau gwych ac wedi cael lle yng Ngholeg y Brenin, Llundain, i astudio ffiseg."
Dywedodd y Cynghorydd Gail Giles, Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg a Sgiliau: "Da iawn i'r holl ddisgyblion a'u hathrawon, staff ysgol eraill a llywodraethwyr am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn ogystal â rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid am eu cymorth.
"Bydd rhai myfyrwyr heb gael y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt a bydden i'n eu hannog i beidio â mynd i banig ac i siarad â'u hathrawon a rhieni am yr holl opsiynau a'r cyfleoedd a fydd ar gael iddynt."