Newyddion

Yr iaith Gymraeg yn dod yn fyw drwy ganu

Wedi ei bostio ar Thursday 11th April 2019

Mae pobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg yng Nghasnewydd yn arddangos eu sgiliau iaith mewn cyfres o fideos sydd bellach ar gael ar YouTube.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Meithrin, y sefydliad gwirfoddol sy’n arbenigo mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, wedi cydweithio i greu rhestr chwarae o wyth fideo.

Mae’r rhain yn dangos plant yn canu caneuon Cymraeg syml, ynghyd ag isdeitlau, fel y gall pawb ymuno yn yr hwyl gyda’u plant.

Mae’r fideos yn cynnwys pobl ifanc sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am rai misoedd yn unig.

Mae’r gwaith yn rhan o broject Bod yn Ddwyieithog/Becoming Bilingual Casnewydd (rhagor o wybodaeth yma www.newport.gov.uk/bodynddwyieithog www.newport.gov.uk/becomingbilingual/)

Nod y project yw codi ymwybyddiaeth gymunedol am fanteision dwyieithrwydd a meithrin hyder pobl i wneud y penderfyniad mawr hwnnw i anfon eu plant i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Yn ystod y digwyddiad lansio, rhoddodd plant o Meithrin ac Ysgol Bro Teyrnon foddhad i bawb wrth iddynt gydganu i’r fideos.

Roedd y Cynghorydd Gail Giles, Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau yng Nghyngor Dinas Casnewydd, yn bresennol yn y lansiad y diwrnod ar ôl i’r Cyngor gyhoeddi ei gynlluniau i agor pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg y ddinas.

“Bydd y fideos arloesol hyn yn golygu y bydd caneuon Cymraeg ar gael i bobl gartref i’w dangos i’w plant a chydganu iddynt. Ni waeth a yw plant yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, byddant yn mwynhau’r caneuon hyn.

“Mae plant yn cael cychwyn addysgol ardderchog wrth fynychu Meithrin yma yn Ysgol Gymraeg Bro Terynon. Ac mae’n amlwg eu bod yn hapus ac yn hyderus yn y Gymraeg – iaith y mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn ei dysgu am rai misoedd yn unig.

“Bydd yn eu helpu i ddechrau eu haddysg Gymraeg a dod yn gwbl ddwyieithog, a rhai’n amlieithog, yn y blynyddoedd nesaf.”

Bydd pedwaredd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd yn agor ym mis Medi 2020.

Meddai Leanne Marsh, Prif Weithredwr dros dro Mudiad Meithrin: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda Chyngor Sir Casnewydd i hyrwyddo buddion dwyieithrwydd. Mae’r fideos yn dangos bod unrhyw blentyn, beth bynnag ei gefndir, iaith neu anghenion yn gallu dysgu a chaffael iaith newydd. 

"Mae bron i 90% o blant sydd yn mynychu’n Cylchoedd Meithrin yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ac mae’r Cylchoedd Meithrin yn llwyddo i greu plant bach dwyieithog drwy’r dull trochi. Mae’r fideos yn adnodd gwych i hyrwyddo a chyflwyno’r Gymraeg yn y cartref a chychwyn llwybr dwyieithog i’r teulu.”

Ewch I diwedd https://www.youtube.com/playlist?list=PLTkXQGlCFE4-sd71fijHfIn6oTGW53-DN

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.