Newyddion

Yr heddlu'n cefnogi'r cyngor yn ysgwyddo deddfwriaeth barcio

Wedi ei bostio ar Wednesday 10th April 2019
car on double yellows

Bydd gyrwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon yn cael eu herlyn

Bydd gyrwyr sy’n parcio’n anghyfreithlon yn cael eu herlyn gan Gyngor Dinas Casnewydd o 1 Gorffennaf pan ddaw rheoliadau Gorfodi Parcio Sifil i rym.

Yn y misoedd diwethaf, mae gorchmynion traffig wedi eu profi a phan fu angen, diweddarwyd neu ddisodlwyd arwyddion gorfodi parcio a llinellau melyn sengl a dwbl yn barod at y diwrnod mawr.

Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn recriwtio tîm o 12 swyddog gorfodi sifil a fydd yn patrolio’r strydoedd trwy’r ddinas o 1 Gorffennaf i sicrhau nad yw gyrwyr yn torri’r rheolau.

Os gwelir cerbyd wedi ei barcio’n anghyfreithlon, bydd gan y swyddogion y grym i gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

Mae’r cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb dros Orfodi Parcio Sifil gan Heddlu Gwent, a fydd yn ildio eu cyfrifoldeb gorfodi parcio ar 30 Mehefin 2019 a’r cyngor yn ei gymryd drannoeth.

Bydd cyfrifoldeb dros orfodi deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â thraffig, yn enwedig o ran troseddau mwy difrifol neu pan fo angen er diogelwch y cyhoedd, yn aros gyda Heddlu Gwent.

Dywedodd llefarydd dros Heddlu Gwent: “Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yng Nghyngor Dinas Casnewydd i sicrhau bod y ddinas yn lle diogel i weithio a byw ynddo; fodd bynnag nid ni fydd y brif asiantaeth ar gyfer troseddau parcio.

“Rydym yn croesawu’r ffaith y bydd gorfodi parcio sifil yn flaenoriaeth gan yr Awdurdod Lleol, ac y bydd adnodd sylweddol ynghlwm er mwyn gwneud gwahaniaeth gadarnhaol mewn cymunedau.”

Mae ymgyrch Gorfodi Parcio Sifil Cyngor Sir Casnewydd i atgoffa gyrwyr am Reolau’r Ffordd Fawr mewn perthynas â pharcio’n cychwyn yn yr wythnosau nesaf gyda neges #ParciwchYnIawn.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Strydlun: “Bu ymateb da i’r ymgyrch recriwtio i gyflogi pobl i gymryd dyletswyddau dan y rheolau Gorfodi Parcio Sifil newydd o 1 Gorffennaf.

“Byddwn yn atgoffa ein preswylwyr am ddeddfwriaeth barcio, sydd yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn y misoedd nesaf gyda’n hymgyrch #ParciwchYnIawn.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.