Newyddion

Addewid i helpu plant wedi'i nodi mewn Siarter newydd

Wedi ei bostio ar Thursday 18th April 2019

Mae cynlluniau i Gyngor Dinas Casnewydd lunio Siarter Plant newydd – a elwir Addewid Pobl Ifanc – wedi’u trafod gan aelodau’r cabinet.

Mae'r ymrwymiad i fabwysiadu siarter o’r fath yn nodi ymrwymiad y Cyngor i sicrhau y bydd gweithio â Chyngor Ieuenctid Casnewydd yn arwain at ymgysylltu â phobl ifanc o bob rhan o’r ddinas.

Bydd yn nodi sut y bydd y cyngor yn gweithio gyda ac ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn cynnwys holl wasanaethau a swyddogaethau’r Cyngor ac felly heb ei gyfyngu i ‘wasanaethau plant’ traddodiadol.

Yna bydd yr Addewid yn llunio cyfres barhaus o addewidion i gyfarwyddo gwaith y cyngor gyda phlant a phobl ifanc.

Mae adroddiad i’r cabinet yn dweud bod Cynllun Corfforaethol y Cyngor ‘Gwella Bywydau Pobl’ yn nodi'r bwriad i gael Siarter Plant ar waith a bydd hon yn nodi addewidion i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd, gan gynnwys addewidion penodol i blant mewn gofal a'r rheiny sy’n gadael gofal.

Cyfres o addewidion yw siarter sy’n helpu gyda gwneud penderfyniadau a datblygiadau polisi ond nid ydynt yn disodli cyfreithiau.  

Mae’r addewidion yn nodi hawliau plant a phobl ifanc pan font yn defnyddio gwasanaethau’r cyngor ac hefyd yr hyn y gallen nhw ei ddisgwyl i’r Cyngor ei wneud iddyn nhw.    

Mae’r Siarter i Gasnewydd wedi’i datblygu gan bobl ifanc i bobl ifanc ac mae’n cynnwys yr addewidion sydd bwysicaf i bobl Casnewydd.

Mae disgyblion o bob rhan o’r ddinas wedi gweithio ar ddatblygu'r Addewid trwy gyfres o weithdai gyda Chyngor Ieuenctid Casnewydd a rhoi adborth trwy eu cynghorau ysgol eu hunain.

Mae’r addewidion yn yr Addewid fel a ganlyn:

* Mae’r holl bobl ifanc yn cael lleisio’u barn a’u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw

* Mae'r holl bobl ifanc yn gallu manteisio ar addysg a chyfleoedd dysgu

* Mae’r holl bobl ifanc yn cael yr un cyfleoedd i gyrraedd eu potensial beth bynnag eu hil, rhyw, crefydd, (an)abledd, statws LHDTh, dewis iaith (Cymraeg)

* Bydd Cyngor Casnewydd yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel

* Mae iechyd a lles meddwl a chorfforol pobl ifanc yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw   

* Mae’r holl bobl ifanc yn gallu manteisio ar lefydd diogel i chwarae a chymdeithasu ynddynt

Diben yr Addewid yw bod yn gynhwysol a pherthnasol i holl blant a phobl ifanc Casnewydd   Ystod oedran yr Addewid yw 0 i 18 oed.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.