Dweud eich dweud - Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau.
Wedi ei bostio ar Monday 29th April 2019
Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop ddydd Iau, 23 Mai.
Mae gan breswylwyr hyd Mawrth 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher 8 Mai (5pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher 15 Mai (5pm)
Dywedodd Will Godfrey, y Swyddog Canlyniadau Lleol: "Mae'n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.
Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu ffoniwch y Tîm Gwasanaethau Etholiadol ar 01633 656656.
Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru:
https://www.sir-benfro.gov.uk/etholiadau-senedd-ewrop