Y Cyngor yn croesawu cynnig cyffrous i greu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol
Wedi ei bostio ar Tuesday 9th April 2019
Mae Rhwydwaith Economaidd Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig uchelgeisiol i greu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol (STC) yng Nghasnewydd.
Byddai’r STC ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cynnig rhaglenni technoleg addysg uwch yn canolbwyntio ar arloesedd, entrepreneuriaeth a masnacholi. Byddai’n darparu cyrsiau cymhwysol i gynhyrchu’r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i fanteisio ar gyfleoedd yn y sectorau gwybodaeth a thechnoleg.
Croesawyd y cysyniad a'r weledigaeth gan Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: “Mae’r cynnig i greu Sefydliad Technoleg Cenedlaethol yng Nghasnewydd yn gyfle cyffrous. Mae’r sector technoleg yn tyfu yn y ddinas a byddai’r STC yn helpu i greu cyfleoedd ar gyfer ein cymunedau. Rwyf wedi bod yn grediniol erioed mai drwy ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ennill swyddi yw’r ffordd orau i sicrhau gwelliannau mewn bywyd, a bydd y STC yn sefydliad newydd fydd â’r nod hwn wrth ei galon. Bydd hefyd yn helpu i ddenu busnesau newydd i’r ddinas, fydd o fudd i’n heconomi lleol.”
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Economaidd Casnewydd.