Newyddion

Datgelu cynlluniau'r ddinas ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 10th April 2019

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yn y ddinas o fis Medi 2020, gan gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion cynradd Cymraeg ledled y ddinas gan 50 y cant.

Roedd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y cyngor, a gymeradwywyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru y llynedd, yn cynnwys ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth gynradd. Cefnogwyd hyn gan addewid Llywodraeth Cymru am arian cyfalaf.

Bydd bron £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol Gymraeg newydd a dwy ysgol arall yng ngorllewin y ddinas.

Cynigir y bydd yr ysgol Gymraeg yn cael ei datblygu ar safle presennol Ysgol Gynradd Pillgwenlli. Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £3m, bydd yr ysgol yn cael ei sefydlu yno ym mis Medi 2022 fel ysgol gynradd â dau ddosbarth mynediad gydag uned drochi a chanolfan adnoddau dysgu.

Hefyd cynigir y bydd egin ysgol yn cael ei sefydlu o fis Medi 2020 yn yr adeilad babanod gwag yn Caerleon Lodge Hill. Mae nifer o leoliadau wedi’u hystyried ar gyfer yr egin ysgol, ond gallai’r cyfleuster cyfnod sylfaen pwrpasol hwn gynnig lleoliad dros dro ardderchog gyda chyfleusterau dysgu yn yr awyr agored, a fyddai hefyd yn golygu na fyddai angen ystafelloedd nac adeiladau dros dro.

Er mwyn cefnogi’r cynnig uchelgeisiol hwn, byddai Ysgol Gynradd Pillgwenlli yn symud i gyfleusterau newydd ar ddatblygiad Whiteheads yn gynnar yn 2022.

Byddai hyn yn golygu y gallai’r ysgol boblogaidd hon dyfu a chynnig tri dosbarth mynediad.  Mae'r ysgol eisoes yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Mae nifer uchel o blant eisoes ar restr aros yr ysgol ar gyfer pob grŵp blwyddyn ac mewn llawer o achosion, mae teuluoedd sy’n byw yn yr ardal yn canfod bod eu plant yn gorfod mynd i ysgolion gwahanol. Byddai’r buddsoddiad hwn yn gostwng nifer y teuluoedd sy’n wynebu’r sefyllfa honno ac yn ei dro, yn gwella presenoldeb a phrydlondeb mewn ysgolion.

Byddai arian hefyd yn cael ei fuddsoddi yn Ysgol Gynradd Parc Tredegar, gan ei chynyddu i ysgol â dau ddosbarth mynediad a hanner.

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Fe wnaethom ymrwymiad i ehangu a gwella’r cyfleoedd i gael addysg Gymraeg yng Nghasnewydd ac rydym yn cyflawni’r addewid hwnnw.

“Byddai lleoli’r ysgol newydd ym Mhilgwenlli yn bodloni’r galw yn yr ardal hon yn y ddinas. Rydym hefyd wedi gweld enghreifftiau o addysg Gymraeg ardderchog yng nghymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, megis yn Butetown, Caerdydd, ac rydw i’n llawn cyffro o fod yn datblygu hyn yng Nghasnewydd.

“Byddai ehangu Ysgol Gynradd Pillgwenlli hefyd yn amhrisiadwy o ran bodloni anghenion y gymuned leol a gwella addysg a phresenoldeb drwyddo draw.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i addysg yng Nghasnewydd a bydd yn sicr yn cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 – rydym yn ddiolchgar eu bod wedi cefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol.

“Rydw i hefyd yn falch o’r posibilrwydd o ddefnyddio adeilad sydd fel arall yn wag, a fydd nid yn unig yn egin ysgol berffaith, ond a fydd o fudd i Gaerllion.

Wrth ddatblygu’r ysgol newydd, bydd dalgylchoedd ysgolion Cymraeg y ddinas hefyd yn cael eu hadolygu i adlewyrchu'r ddarpariaeth well a gynigir ledled Casnewydd.

Cyn y gwneir penderfyniad terfynol ar y cynigion, caiff ymgynghoriad ffurfiol ei gynnal i alluogi'r holl bartïon â diddordeb wneud sylwadau arnynt. Caiff dyddiadau penodol eu cyhoeddi yn y man.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.