Newyddion

Ffigyrau twristiaeth Casnewydd yn parhau i dyfu

Wedi ei bostio ar Monday 17th September 2018

Ar i fyny o hyd mae diwydiant twristiaeth Casnewydd, yn ôl y set diweddaraf o ystadegau swyddogol.

Mae STEAM, sydd yn fodel gweithgareddau economaidd annibynnol a ddefnyddir gan yr holl gynghorau yng Nghymru, wedi cynhyrchu'r adroddiad ymwelwyr ar gyfer 2017.

Mae'n dangos fod yr economi ymwelwyr yng Nghasnewydd wedi bron a dyblu ers 2006 ac roedd y twf y llynedd, o'i gymharu â 2016 yn 3.5% sy'n golygu fod y diwydiant wedi cael cyfanswm effaith ariannol o £396.56 miliwn y flwyddyn.

Yn 2017, cynyddodd nifer yr arosiadau dros nos fwyn na phedwar y cant - gydag oddeutu 750,000 o bobl yn treulio un neu fwy o nosweithiau yn y ddinas - er bod nifer yr ystafelloedd gwesty wedi aros yr un fath.

Roedd hyn yn golygu bod cyfradd feddiannaeth dda i westyau a llety eraill yng Nghasnewydd.

Roedd ymgyrchoedd integredig wedi arwain at gyfradd uchel o ymholiadau ledled y DU ar gyfer canllaw marchnata Casnewydd i ddefnyddwyr ac mae'r ddinas hefyd wedi bod yn denu cwmnïau teithio grwpiau, marchnad sy'n tyfu yng Nghymru.

Llwyddodd digwyddiadau allweddol fel Gŵyl Fwyd Casnewydd a digwyddiadau rhanbarthol eraill, gan gynnwys Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yr haf diwethaf, i chwyddo'r niferoedd a fu'n aros ac yn ymweld am y diwrnod.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: "Mae'r ffigyrau hyn yn newyddion rhagorol i'r ddinas ac yn dangos bod sector dwristaidd sy'n tyfu gennym sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'r economi leol.

Mae llawer gan Gasnewydd i'w chynnig gydag atyniadau ffantastig o fewn y ddinas ac o fewn pellter bychan i'n ffiniau.

"Gydag agor Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru'r flwyddyn nesaf, gallwn ddisgwyl i'r tuedd am i fyny barhau yn yr economi ymwelwyr.

"Mae'r gwaith yn mynd rhagddo yn dda ar y Gwesty Mercure newydd yn  Nhŵr y Siartwyr, sydd hefyd i agor y flwyddyn nesaf, ac rwy'n siŵr y gwelwn fwy o westyau yn dilyn er mwyn ateb y galw anorfod.

DIWEDD

Cysylltiadau Cyhoeddus

Cyngor Dinas Casnewydd

01633 210461

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.