Newyddion

Ffair swyddi yng nghanol dinas Casnewydd ym mis Hydref

Wedi ei bostio ar Friday 28th September 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal ffair swyddi ddydd Iau 11 Hydref rhwng 10am a 2pm yng Nghanolfan Casnewydd.

Bydd cannoedd o swyddi'n cael eu cynnig eto yn y digwyddiad sy'n cael ei drefnu gan Academi Dysgu Seiliedig ar Waith y Cyngor mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd amrywiaeth o fusnesau yn chwilio am recriwtiaid newydd, gan gynnwys Admiral, Allied HealthCare, Amberport Security, JD Sports, CThEM, Q Care a llawer mwy mewn ystod o sectorau yn y digwyddiad yn Ffordd y Brenin.

Y llynedd, ymwelodd mwy na 1,500 o bobl â'r ffair swyddi yng Nghanolfan Casnewydd ac roedd yr adborth gan fusnesau a'r rhai a oedd yn chwilio am waith yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: "Mae helpu pobl i gael gwaith yn flaenoriaeth uchel. Mae hyn yn dilyn digwyddiad tebyg a llwyddiannus dros ben ym Mhillgwenlli yn yr haf a'n digwyddiadau blynyddol blaenorol yng nghanol y ddinas.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn denu amrywiaeth eang o gwmnïau sy'n ceisio recriwtio staff newydd ac maent hefyd yn cynnwys darparwyr hyfforddiant sy'n gallu helpu pobl sydd am wella eu sgiliau neu ailhyfforddi ar gyfer gyrfa newydd.

"Prosiect partneriaeth BGC Casnewydd yn Un yw'r ffair ac edrychwn ymlaen at gydweithio llwyddiannus pellach yn y dyfodol. Mae croeso i bawb i fynychu a dymunaf bob llwyddiant i bawb yn eu gwaith a'u hyfforddiant yn y dyfodol."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.