Digwyddiadau i nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
Wedi ei bostio ar Friday 28th September 2018
Cynhelir digwyddiadau yn St Woolos
Mae mis Tachwedd 2018 yn nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-1918. Roedd hwn yn rhyfel a gafodd effaith enfawr ar drigolion Casnewydd, wrth i ddynion ifanc adael eu teuluoedd i fynd i faes y gad, a menywod ifanc yn ymgymryd â swyddi diwydiannol newydd.
Eleni, mae projectau a digwyddiadau yng Nghasnewydd i gofio aberth y teuluoedd a'r unigolion hynny yn cael eu llwyfannu ar hyd y ddinas.
Y Rhyfel Byd Cyntaf - Cofio'r Dur. Dyma broject wedi ei arwain gan Linc Cymru i dynnu sylw at brofiadau go iawn gweithwyr dur Orb a orymdeithiodd i ryfel yn 1914-1918, y rhai a ddaeth yn ôl a'r rhai sydd wedi eu coffáu gan Gofeb Ryfel Gwaith Dur Orb.
Os carech wybod rhagor am yr arddangosfa hon ewch i Cofio'r Dur
Ddydd Mercher 10 Hydref cynhelir taith gerdded o Fynwent Gwynllyw gan ymweld â beddau rhyfel yng nghwmni’r hanesydd lleol Richard Frame. Cwrdd wrth y brif glwyd ar Bassaleg Road am 10am.
Mae’r preswylydd lleol Susan Waters yn trefnu arddangosfa bedwar diwrnod ar y Rhyfel Byd Cyntaf dan y pennawd Flowers for the Fallen.
Bydd yr arddangosfa hon yn Neuadd Bentref ac Eglwys Fair Trefonnen er mwyn cofio’r 70 o filwyr a aeth o bentrefi Whitson, Allteuryn a Threfonnen i ymladd yn y rhyfel ac i anrhydeddu’r chwech na ddaeth adre’n ôl.
Cynhelir yr arddangosfa rhwng 11am a 4pm o ddydd Iau 8 Tachwedd hyd dydd Sadwrn 10 Tachwedd ac o 10.30am tan 12.30pm ddydd Sul 11 Tachwedd gyda Gwasanaeth Coffa yn Eglwys Trefonnen am 2.30pm ddydd Sul (11 Tachwedd) ac yn dilyn hynny ‘Te Heddwch’ yn y Neuadd Bentref gerllaw.
Mae Caerllion yn Cofio yn goffadwriaeth i Gadoediad 1918 mewn gair a chân a gaiff ei gynnal ddydd Sadwrn 10 Tachwedd, 7.30pm yn Eglwys Sant Cadog, Caerllion. Tocynnau ar gael yng Ngŵyl Gelfyddydol Caerllion a Swyddfa Bost Caerllion.
Bydd Cadeirlan Sant Gwynllyw yn cynnal diwrnod o arddangosfeydd a gweithgareddau yn cofio’r rhan chwaraeodd Casnewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth, dogfennau o'r archif, sgyrsiau byr a cherddoriaeth. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb ddydd Sadwrn 10 Tachwedd, 10.30am-4.30pm
Bydd parêd blynyddol Sul y Cofio yn digwydd gan ddechrau ar y Stryd Fawr, ac yna gwasanaeth cofio wrth y Gofadail, ddydd Sul 11 Tachwedd, 10.30am.
Tra bydd Sul y Cofio yng Nghaerllion yn cael ei nodi drwy osod pabïau ar gofeb rhyfel Caerllion ddydd Sul 11 Tachwedd, 10.30am. Croeso i bawb.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu mosaig sy’n coffau’r newid a fu i rôl menywod Casnewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd y mosaig ym man cyhoeddus agored St Paul’s Walk. Gobeithir y dadorchuddir y mosaig ym mis Tachwedd.