Newyddion

Cyflwyno Cynnig Gofal Plant ledled Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 28th September 2018
Childcare Offer Logo

Bydd rhieni cyflogedig plant tair a phedair oed yng Nghasnewydd yn gallu gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant yng Nghymru yn gynt na'r disgwyl ym mis Hydref.

Y bwriad oedd ehangu'r cynllun o wyth ward i'r ddinas gyfan ar ddechrau'r flwyddyn nesaf ond mae wedi cael ei ddwyn ymlaen yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cyflogedig gyda phlant tair a phedair blwydd oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd David Mayer, aelod cabinet y Cyngor dros y gymuned ac adnoddau: "Mae hwn yn newyddion ardderchog i Gasnewydd. Mae'r cyhoedd wedi dangos diddordeb aruthrol yn y cynllun ac mae hynny'n dangos bod angen mawr am gynlluniau fel y rhain.  Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein staff ardderchog, trefnus ac wedi ehangu'r cynllun gwerthfawr hwn."

Mae gwaith nawr yn mynd rhagddo i gofrestru darparwyr gofal plant ledled y ddinas a bydd rhieni yn gallu gwneud cais o 8 Hydref ymlaen am y cynllun a fydd yn dechrau ar 6 Tachwedd, yn dilyn hanner tymor yr hydref.

I fod yn gymwys i gael y 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed, mae'n rhaid i rieni fod yn byw yn y ddinas a bod yn gyflogedig neu hunangyflogedig.

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, y meini prawf a sut i wneud cais, ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Children-and-families/Family-Information-Service/Childcare/Childcare-offer.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.