Newyddion

Lansio fideos Bod yn Ddwyieithog mewn gŵyl

Wedi ei bostio ar Monday 17th September 2018

Cyflwynodd hyrwyddwr y Gymraeg Cyngor Dinas Casnewydd, Jason Hughes, dair ffilm fer yn Gŵyl Newydd ddydd Sadwrn.

Datblygwyd y ffilmiau fel rhan o ymgyrch Bod yn Ddwyieithog y cyngor; maen nhw’n dangos rhieni Casnewydd yn trafod profiadau eu teuluoedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

Nod yr ymgyrch, sy’n un o elfennau o strategaeth Cymraeg pum mlynedd y ddinas, yw codi ymwybyddiaeth am addysg gyfrwng Cymraeg.

Gŵyl Newydd fu gŵyl Gymraeg gyntaf Casnewydd a bu digwyddiadau trwy’r wythnos, yn dod i anterth mewn dathliad yn Malpas Court ar y Sadwrn.

I ddysgu mwy am Bod yn Ddwyieithog ac addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd, yn ogystal â chanfod dolen i’r fideos, ewch i: http://www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Learning-Welsh-in-Newport.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.