Newyddion

Digwyddiad Democratiaeth Yfory 5 Tachwedd

Wedi ei bostio ar Tuesday 16th October 2018

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn croesawu nifer o siaradwyr adnabyddus i'r ddinas ar 5 Tachwedd am gynhadledd undydd. 

Yn syth ar ôl Gŵyl Newport Rising, 2-4 Tachwedd, a fydd yn dathlu treftadaeth Siartwyr Casnewydd, bydd y gynhadledd yn dod â'r digwyddiadau hynny i'r byd modern drwy gyfres o drafodaethau ar sut mae democratiaeth yn gweithio yn y byd modern. 

Gan ddefnyddio thema Democratiaeth Yfory, bydd y  digwyddiad yn ystyried y darlun newidiol o wleidyddiaeth a chynrychiolaeth fodern a sut mae'r farn draddodiadol ar ddemocratiaeth yn cael ei herio gan dechnoleg newydd a newidiadau yn agweddau'r cyhoedd. 

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad bydd:

•            Cyng. Debbie Wilcox, Arweinydd, Cyngor Dinas Casnewydd

•            Matthew Taylor, Prif Weithredwr, RSA

•            Paul Mason, Sylwebydd Gwleidyddol

•            Bobby Duffy, Cyfarwyddwr Sefydliad Polisi, King's College Llundain

•            Chloe Smith AS; y Gweinidog dros y Cyfansoddiad

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal fel rhan o ymrwymiadau cynllun corfforaethol y cyngor i ddatblygu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau lleol gan godi proffil Casnewydd ar lefel genedlaethol a, gobeithio, annog mwy o ymwelwyr a buddsoddwyr i ddod i'r ddinas. 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru ar wefan y digwyddiad yn http://pk3p4c.attendify.io/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.