Newyddion

Mae Gŵyl Fwyd a Diod Tiny Rebel ar fin dechrau

Wedi ei bostio ar Monday 1st October 2018

Rydyn ni'n cyfrif y diwrnodau tan un o ddigwyddiadau mwyaf Cyngor Dinas Casnewydd - Gŵyl Fwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd fydd yn cael ei chynnal yr wythnos hon.

Caiff mwy na 80 stondin eu llenwi gydag amrywiaeth o bethau da a diodydd gan gyfranogwyr o ledled Cymru a gweddill y DU a fydd yn ymweld â'r ddinas ac un o'r pethau gorau am y diwrnod yw bod y digwyddiad YN RHAD AC AM DDIM i ymwelwyr.

Am y tro cyntaf erioed, bydd y digwyddiad yn Usk Plaza yn Friars Walk yn ogystal ag yn y Stryd Fawr a Marchnad Dan Do Casnewydd.

Nodwch ddydd Sadwrn 6 Hydref yn eich dyddiadur i sicrhau nad ydych yn methu'r digwyddiad gwych hwn, a fydd yn digwydd o 9am tan 5pm.

Dyma'r wythfed flwyddyn mae'r Cyngor wedi cynnal yr ŵyl sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd bob blwyddyn. Bydd arddangosiadau gan gogyddion trwy'r diwrnod mewn sawl lleoliad gan gynnwys marchnad Casnewydd, swyddfeydd y Grŵp Pobl yn y Stryd Fawr ac yn Usk Plaza, Friars Walk gyda ffeinal cogyddion iau yn cael ei gynnal am 11am.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox, fod y digwyddiad yn gyfle i drigolion ac ymwelwyr werthfawrogi y gall y ddinas gynnal digwyddiad gwych.

 "Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob oedran i'w ŵyl sy'n addo bod â rhywbeth i bawb, o'r bwyd a'r diodydd gwych fydd ar werth i adloniant stryd, arddangosiadau gan gogyddion a'r cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd.

 "A diolch yn fawr i'n prif noddwyr, y bragwyr penigamp Tiny Rebel am eu cymorth y drydedd flwyddyn yn olynol ac i Gasnewydd Nawr, gwesty Celtic Manor a chanolfan siopa Friars Walk am eu cymorth.

 "Gyda gobaith y bydd y tywydd yn braf. Gobeithio y bydd y deiliaid stondinau'n cael diwrnod llwyddiannus iawn ac y bydd ymwelwyr yn cael profiad gwych."

Dywedodd Hywel Jones, noddwr Gŵyl Fwyd Casnewydd y bydd y diwrnod yn un i'r brenin, gan ddod ynghyd â busnesau lleol anhygoel, bwydgwn a'r cyhoedd brwdfrydig.

 "Rwy'n falch o ddweud y bydd cogyddion lleol yn arddangos pam mae'r sin fwyd yng Nghasnewydd yn ffynnu. Bydda i'n coginio i fyny'r grisiau yn y farchnad am hanner dydd, felly dewch draw i ddweud helô," meddai Hywel.

Mae gan y Cyngor wefan ar gyfer y digwyddiad, am fwy o wybodaeth ewch i www.newportfoodfestival.co.uk

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.