Newyddion

Lansio GDMC diwygiedig

Wedi ei bostio ar Thursday 18th October 2018
city centre  from city footbridge resized

Canol dinas Casnewydd GDMC diwygiedig

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn lansio ei Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) diwygiedig ar gyfer canol y ddinas wythnos yma.

Bydd y lansiad yn cyd-daro â Diwrnod Gweithredu Canol y Ddinas ddydd Iau 18 Hydref pan fydd Aelod Cabinet y cyngor dros Drwyddedu a Rheoleiddio, y Cynghorydd Ray Truman, yn ymuno â phartneriaid y cyngor, gan gynnwys Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, cymdeithasau tai a sefydliadau trydydd sector, i hyrwyddo diogelwch cymunedol.

Nod y Diwrnod Gweithredu o gwmpas St Paul’s Walk yw gwella lles canol y ddinas, mynd i’r afael â phryderon trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella ymddiriedaeth a hyder y gymuned mewn sefydliadau partner a hyrwyddo cynnwys y gymuned.

Cyflwynwyd GDMC cyntaf canol y ddinas ym mis Tachwedd 2015 ac yn gynharach eleni penderfynodd y cyngor ei bod hi’n amser i’w adolygu, gan ystyried yr hyn sydd wedi gweithio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, pa gyfyngiadau sydd angen eu cadw neu eu diwygio ac a oes angen cyfyngiadau newydd i fynd i’r afael â mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas.

Yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, mae gan GDMC canol y ddinas reolaethau llymach ar gardota ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y Cyng. Truman: “Gwnaethom ymgynghori â’r cyhoedd ar GDMC diwygiedig canol y ddinas, a bydd y cyfyngiadau newydd ar gardota ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhoi’r pwerau i’r heddlu fynd i’r afael â hyn.

 “Mae’r bartneriaeth hon yn allweddol fel ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i wneud Casnewydd yn lle mwy diogel a dymunol i fyw a gweithio.”

Croesawyd y pwerau ychwanegol a roddir gan GDMC diwygiedig canol y ddinas gan Arolygydd Canol Dinas Casnewydd, John Davies o Heddlu Gwent.

Dywedodd: “Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus yn cael eu defnyddio gan y ddinas i ddiogelu ein cymunedau rhag ymddygiad sy’n cael, neu sy’n debygol o gael, effaith negyddol ar ansawdd bywyd.

“Bydd y pwerau a roddir gan y GDMC newydd yn sicrhau y gallwn fynd i’r afael â’n prif flaenoriaethau, sef taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a chardota, mewn modd holistig gyda’n partneriaid. Mae’n rhan fechan o’r gwaith sy’n cael ei wneud bob dydd i wneud y ddinas yn lle diogel i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n dioddef o broblem benodol yn ei gymuned i gysylltu â’i Dîm Cymdogaeth lleol i drafod ei bryderon, neu ffonio 101. Os gwelwch drosedd yn digwydd o flaen eich llygaid, ffoniwch 999.”

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.