Newyddion

Ymateb i gyhoeddiad cyllideb LlC

Wedi ei bostio ar Thursday 4th October 2018
DebbieWilcox

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: "Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru ei hun wedi bod yn ymdrin ag agenda llymder y DU sy'n golygu ei bod yn cael llai o arian i'w drosglwyddo i gynghorau.

"Fodd bynnag, er bod toriadau wedi'u gwneud ar draws y sector cyhoeddus nid oes amheuaeth bod Llywodraeth Leol wedi derbyn ac yn parhau i dderbyn y toriadau trymaf er gwaethaf y ffaith bod y pwysau a'r galw rydym yn eu hwynebu yn parhau i dyfu’n sylweddol - ac nad ydynt yn dangos unrhyw arwydd o leihau yn y dyfodol.

"Yn y cyfamser, mae'r cyllid a dderbyniwn wedi aros fwy neu lai yr un peth ers nifer o flynyddoedd bellach ac mae hynny'n golygu bod y bwlch rhwng yr arian a gawn a'r hyn sydd gennym i’w wario yn mynd yn fwy yn barhaus.

 “Ar ben hyn, y flwyddyn nesaf bydd y dyfarniadau cyflog a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn costio tua £6.5 miliwn i'r cyngor - nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid digonol i dalu am hyn, heb sôn am bwysau cynyddol cyflawni gwasanaethau rheng flaen allweddol.

"Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio a bydd angen gofal ar fwy a mwy o bobl naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi preswyl/nyrsio. Rydym yn ddinas sy'n tyfu ac mae'n hanfodol ar gyfer creu swyddi a'r economi leol, ond mae'n golygu mwy o blant a mwy o leoedd mewn ysgolion.

"Mae mwy a mwy o blant ag anghenion cymhleth yn trosglwyddo i fod yn oedolion ac mae angen cymorth a gofal parhaus arnynt, am weddill eu hoes yn ôl pob tebyg.

"Mae llawer o wasanaethau'n cael eu hymestyn bron i'r eithaf ond mae gennym lai o staff ac adnoddau i ddiwallu anghenion sy'n cynyddu'n barhaus.

“Mae’r gwaith rydym wedi’i wneud er mwyn paratoi at fwlch sylweddol yn y cyllid y flwyddyn nesaf eisoes wedi bod yn eithriadol o heriol - rydym yn teimlo ein bod ni eisoes wedi gwneud toriadau at y byw - a bydd y cyhoeddiad hwn ond yn gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen, i gadw cydbwysedd yn unig, yn anoddach fyth.

"Mae gwasanaeth cyhoeddus yn ymwneud â gwneud bywydau pobl yn well ond mae angen i gynghorau gael eu cyllido'n briodol. Byddaf yn parhau i drafod y mater gyda'm cyd-aelodau ar gynghorau eraill, gan ein bod i gyd yn wynebu'r un frwydr ac mae angen sicrhau bod y gwleidyddion yn San Steffan ac ym Mae Caerdydd yn deall pa mor daer y mae'r sefyllfa'n prysur ddod."                              

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.