Newyddion

Arolygon ailgylchu i helpu i lunio strategaeth gwastraff y Cyngor

Wedi ei bostio ar Tuesday 30th October 2018

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn edrych ar ffyrdd o gynyddu ei ffigurau ailgylchu i osgoi cael dirwy gan Lywodraeth Cymru.

Er bod ystadegau diweddar wedi amlygu bod cyfradd ailgylchu'r Cyngor wedi parhau ar 60 y cant – sy’n golygu mai Casnewydd yw’r ddinas ailgylchu orau ond un yn y DY – y gyfradd ailgylchu cyffredinol yn y DU yw 45 y cant ond mae angen i bawb wella.

Fel Cyngor rydym yn gwybod bod eitemau y gellir eu hailgylchu yn mynd i’r biniau olwynion ac mae’n costio tua £1 miliwn i’r Cyngor waredu’r eitemau hyn.  

Mae’r Cyngor wrthi’n diweddaru ei Strategaeth Gwastraff ac yn defnyddio’r cyfle hwn i gyflawni amrywiaeth o arolygon i gasglu safbwyntiau’r preswylwyr.

Gall teithwyr ar fysus lleol gwblhau arolwg byr gan ddefnyddio wi-fi’r bws a bydd arolwg mwy manwl ar gael i banel dinasyddion y Cyngor. 

Ac yn yr wythnosau nesaf bydd arolwg ailgylchu manwl ar gael ar wefan y Cyngor trwy’r dudalen Dweud eich Dweud.

Meddai'r Cynghorydd Roger Jeavons, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros y Strydlun: “Fel y Cyngor rydym yn ymwybodol iawn o’r dirwyon sylweddol a wynebwn os na fyddwn yn cyflawni’r targedau ailgylchu statudol.

“Ac er ein bod yn ddiolchgar iawn i’n preswylwyr sy'n ailgylchu'n rheolaidd, mae angen i bawb wneud eu rhan.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein harolygon yn rhoi atebion o ran pam nad yw pobl yn ailgylchu gan ddysgu, gobeithio, os oes unrhyw beth y gallwn ni fel Cyngor ei wneud i sicrhau bod pawb yn cymryd rhan.”

Dilynwch y ddolen i gymryd rhan a dweud eich dweud http://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Consultations/Consultations.aspx

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.