Newyddion

Gwersyll Anghyfreithlon ar Parc Coronation

Wedi ei bostio ar Thursday 1st November 2018

Gall Cyngor Dinas Casnewydd gadarnhau bod gwersyll anghyfreithlon ar un arall o barciau'r ddinas, y tro hwn Parc Coronation.

Symudodd teithwyr i’r safle ar ôl i’r fynedfa ddiogel gael ei ddifrodi. Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn cael eu harchwilio ar frys, ac os oes modd adnabod yr unigolyn neu'r unigolion sy'n gyfrifol am y difrod, bydd yn cael ei anfon ymlaen i'r heddlu.

Credir mai'r un grŵp o deithwyr yw’r rhain a’r rhai a gafodd eu troi allan o barc Black Ash yn Llyswyry yn ddiweddar, ac maent wedi bod ar Barc Coronation o'r blaen.

Unwaith eto, bydd y gwersyll diweddaraf yn tarfu ar breswylwyr a chlybiau chwaraeon sy'n defnyddio'r parc ac mae'r cyngor yn rhannu eu rhwystredigaeth ynghylch y camddefnydd o'r cyfleuster lleol hwn.

Bydd rhaid i ni fynd drwy’r broses gyfreithiol i'w symud, ac mae hyn yn cael ei wneud fel mater o frys.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.