Newyddion

Arbenigwyr yn arddangos eu sgiliau coginio yng Ngŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 5th October 2018

Mae'n siŵr bod llawer o bobl yn mwynhau rhaglenni bwyd poblogaidd megis Great British Bake Off a Masterchef.

Ac yng Nghasnewydd, mae gennym lawer o gogyddion talentog fydd yn arddangos eu sgiliau coginio gwych yng Ngŵyl Bwyd a Diod Tiny Rebel Casnewydd ddydd Sadwrn, 6 Hydref.

Mae'r digwyddiad am ddim yn golygu y gallwch eistedd a mwynhau'r arddangosiadau mewn tri lleoliad gwahanol yn y ddinas, gyda chyfle i flasu'r prydau bwyd sy'n cael eu creu o'ch blaen chi.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal yr ŵyl gyda chymorth ein prif noddwr Tiny Rebel ynghyd â Newport Now, y Celtic Manor a Friars Walk.

Ynghyd â chrwydro drwy dros 80 o stondinau bwyd a diod gallwch hefyd ymweld â Marchnad Dan Do Casnewydd i weld rownd derfynol Teenchef lle bydd Clwb Ieuenctid Maendy yn erbyn Clwb Ieuenctid Sain Silian mewn sioe gyffrous yn dechrau am 11am.

Bydd noddwr yr ŵyl, Hywel Jones o Westy a Spa Lucknam Park, yn y farchnad am hanner dydd ar gyfer y cyntaf o'r pedwar arddangosiad.

Yna, bydd Steve White o'r Red Lion, Caerllion am 1pm; Ben Periam o The Pod am 2pm a Gareth Pembridge o'r Celtic Manor am 3pm.

Bydd hefyd cystadleuaeth 'beth sydd yn y bocs' am 4pm pan fydd gofyn i gogyddion greu prydau o'r cynhwysion y byddant yn eu gweld am y tro cyntaf ar y llwyfan.

Bydd Pobl Group yn y Stryd Fawr hefyd yn cynnal cyfres o arddangosiadau cogyddion o 11.30am, gan ddechrau â Steve White yn cynrychioli'r Red Lion. Ac am 12.30pm bydd Ben Periam yn arddangos ei sgiliau cyn ei arddangosiad yn y prynhawn ym Marchnad Casnewydd. Bydd Anil Karhadkar o Curry on the Curve yn arddangos ei waith am 1.30pm.

Bydd Dion Tidmarsh o'r Stuffed Dormouse yn arddangos ei sgiliau am 2.30pm, a bydd Chris Williams o Wagamama yn dangos ei sgiliau am 3.30pm.

Am y tro cyntaf, bydd arddangosiadau cogyddion yn cael eu cynnal yn Usk Plaza yn Friars Walk.

Ymhlith y bwytai sy'n cymryd rhan yn y gyfres o sioeau coginio sy'n cael eu cynnal o 11am ymlaen mae Wagamama, Bistro Pierre, Las Iguanas, Chiquito, Zizzi a TGI Fridays.

I gael rhagor o wybodaeth ar y digwyddiadau ewch i www.newportfoodfestival.co.uk.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.