Newyddion

Cefnogaeth i gynlluniau'r ddinas am addysg Gymraeg ac ysgol Gymraeg newydd

Wedi ei bostio ar Tuesday 9th October 2018

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael ei gymeradwyo'n swyddogol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun yn nodi sut fydd addysg Gymraeg yn y ddinas yn cael ei datblygu ac mae’n cysylltu â Strategaeth Gymraeg gyffredinol y Cyngor dros bum mlynedd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Debbie Wilcox: "Rydym wedi dangos ymrwymiad clir i’r Gymraeg fel Cyngor ac rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru yn swyddogol.

“Mae’r cynllun yn cynnwys cynnig i agor pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd, ac rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r ysgol hon drwy arian cyfalaf – mae’n hwb go iawn i’r ddinas.”

Yn amodol ar ddyrannu’r cyllid yn swyddogol, y bwriad yw agor egin ysgol ym mis Medi 2020. Nid yw lleoliad yr ysgol wedi cael ei gadarnhau eto.

Yna byddai’r ysgol newydd yn cael ei datblygu fel ysgol gynradd gyda dau ddosbarth mynediad, ac yn cynyddu nifer y lleoedd mewn addysg gynradd Gymraeg ar draws y ddinas gan 50 y cant.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Gail Giles: “Mae hwn yn gam cadarnhaol i addysg yng Nghasnewydd a bydd, wrth gwrs, yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Gydol Oes: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael canlyniad boddhaol yng Nghasnewydd. Hoffwn ddiolch i’r Cyngor am ei barodrwydd i weithio mewn partneriaeth ac edrychaf ymlaen at weld y cynllun gweithredu'n llwyddo".   

Mae rhagor o wybodaeth am WESP Casnewydd i’w gweld ar-lein.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.