Newyddion

Agor proses gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru

Wedi ei bostio ar Monday 8th October 2018

O heddiw (dydd Llun 8 Hydref), bydd teuluoedd Casnewydd ymysg y rheiny yng Nghymru a all hawlio 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir gan y Llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn fel rhan o Gynnig Gofal Plant newydd i Gymru.

Gall rhieni neu warcheidwaid cymwys i blant 3-4 oed sydd mewn gwaith yng Nghasnewydd wneud cais yn www.newport.gov.uk/childcareoffer

Bydd yn cynnwys cyfuniad o addysg gynnar a ddarperir gan y Cyfnod Sylfaen sy'n agored i bob plentyn tair a phedair blwydd oed a'r gofal plant ychwanegol a ariennir i deuluoedd cymwys.

Mae'n rhaid i rieni fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Bod â phlentyn tair neu bedair oed sy'n gallu manteisio ar addysg ran-amser
  • Rhaid iddynt fyw yng Nghasnewydd
  • Mae'n rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu un rhiant, ac yn gweithio am 16 awr neu fwy, naill ai'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig

neu

  • Rhaid eu bod yn ennill cyfwerth â gweithio am 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol

neu

  • Yn derbyn budd-daliadau gofal penodol

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun, neu i wneud cais, ewch i www.newport.gov.uk/childcareoffer

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.